Ashkelon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Ashkelon :''Gweler hefyd Ashkelon (gwahaniaethu).'' Dinas ar arfordir y Môr Canoldir yn ne Israel yw '''Ashkelon''' ([[Hebraeg...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Ashkelonskyline.jpg|250px|bawd|Ashkelon]]
:''Gweler hefyd [[Ashkelon (gwahaniaethu)]].''
Dinas ar arfordir y [[Môr Canoldir]] yn ne [[Israel]] yw '''Ashkelon''' ([[Hebraeg]]: אַשְׁקְלוֹן‎ ''Ashkelon''; [[Arabeg]]: ٲشكلون‎, hefyd عسقلان ''Ar 'Asqalān''; [[Lladin]]: ''Ascalon''; [[Acadeg]]: ''Isqalluna''). Sefydlwyd porthladd Ashkelon (''Ascalon'') yn [[Oes yr Efydd]].

Yn nghwrs ei hanes hir mae Ashkelon wedi cael ei rheoli gan y [[Canaan]]iaid, y [[Philistiaid]], y [[Babilon]]iaid, y [[Ffenicia]]id, y [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]], y [[Islam|Mwslwmiaid]] a'r [[Croesgad]]wyr. Cafodd ei dinistrio gan y [[Mamluk]]iaid ar ddiwedd y 13eg ganrif. Yn [[Rhyfel Israel a'r gwledydd Arabaidd 1948]], roedd pentref Arabaidd Majdal ger Ashkelon yn un o wersylloedd blaen byddin [[yr Aifft]] yn [[Llain Gaza]]. Meddianwyd y pentref hwnnw gan yr Israeliaid ar 5 TchweddTachwedd, 1948 a ffoes yrnifer o'r Arabiaid lleol i Gaza gyda'r fyddin Eifftaidd. Dychwelodd tua 2,000 i'w hen gartrefi ond cawsont eu gorfodi i adael gan yr Israeliaid yn 1950 i wneud lle am ymsefydlwyr Iddewig. Sefydlwyd y ddinas Israelaidd bresennol yn Ashkelon yn 1950. Erbyn heddiw mae 108,900 o bobl yn byw yno.
 
Am fod y ddinas yn agos i'r ffin â Llain Gaza mae wedi cael ei thrawo o bryd i'w gilydd gan rocedi [[Hamas]] yn rhan olaf 2008 yn y gwrthdaro a arweiniodd at [[Ymgyrch fomio Llain Gaza Rhagfyr 2008]].