Caradog ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Yn awr aeth Caradog ati i geisio efelychu ei dad a'i daid trwy ychwanegu Deheubarth at ei deyrnas. Yn [[1072]] gorchfygodd frenin Deheubarth, [[Maredudd ab Owain]], mewn brwydr ger [[Afon Rhymni]] a'i ladd. Yn [[1078]] enillodd fuddugoliaeth arall dros [[Rhys ab Owain]] oedd wedi dilyn Maredudd ar orsedd Deheubarth, a'i ladd yntau. Erbyn [[1081]] yr oedd wedi gorfodi brenin newydd Deheubarth, [[Rhys ap Tewdwr]] i geisio nodded yn eglwys gadeiriol [[Tyddewi]]. Newidiwyd y sefyllfa pan laniodd [[Gruffudd ap Cynan]] o [[Iwerddon]], i geisio cipio gorsedd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] oddi wrth [[Trahaearn ap Caradog]]. Mewn cyfarfod rhwng Rhys ap Tewdwr a Gruffudd ap Cynan yn eglwys gadeiriol Tyddewi, gwnaethant gynghrair gyda bendith yr esgob.
 
Ymatebodd Caradog trwy wneud cynghrair a brenin Gwynedd, Trahaearn ap Caradog. Cyfarfu'r ddwy blaid ym [[Brwydr Mynydd Carn|Mrwydr Mynydd Carn]], tua taith diwrnod o Dyddewi. Lladdwyd Caradog a Trahaearn yn y frwydr yma. Gadawodd Caradog fab, Owain ap Caradog, a fodlonodd ar deyrnasu ar diroedd [[Gwynllwg]] ac a sefydlodd linach arglwyddi [[CaerlleonCaerllion]].
 
==Cyfeiriadau==