Drenewydd Gelli-farch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: bawd|230px|Eglwys Sant Thomas a Becket, Drenewydd Gelli-farch Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw '''Drenewydd Gelli-farch''', weithiau '''T...
 
ychwanegu
Llinell 2:
 
 
[[Pentref]] a chymuned yn [[Sir Fynwy]] yw '''Drenewydd Gelli-farch''' (Cyfeirnod OS: ST4793), weithiau '''Trenewydd Gelli-farch''' ([[Saesneg]]: ''Shirenewton''). Ceir 'Gelli-farch' arall ger 'Cilfrew' ym [[Morgannwg]], dyna pam y tyfodd yr enw 'Drenewydd' i wahaniaethu'r ddau. Lle coediog ydy 'gelli' ac mae'r ardal yn dal i fod yn gyfoethog ei goed.
 
Fe'i lleolir dair milltir i'r gorllewin o dref [[Cas-gwent]] a tua 500 troedfedd (154 m) uwch lefel y môr. Cyn dyfodiad y [[Normaniaid]], roedd yn rhan o fforest [[Coed Gwent]] a [[cantref|chantref]] [[Gwent-is-coed]]. Ceir cyfeiriad ar y lle yn [[Llyfr Dydd y Farn]], pan oedd yn rhan o diroedd yn perthyn i Durand, Rhingyll [[Caerloyw]]. Cysegrwyd yr eglwys, a adeiladwyd yn hanner cyntaf y [[13eg ganrif]], i [[Thomas Becket|Sant Thomas à Becket]]. Roedd [[Adda o Frynbuga]] yn rheithor yr eglwys yma yn 1399.