Matharn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: bawd|200px|Eglwys Sant Tewdrig, Matharn Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw '''Matharn''' neu '''Porthsgiwed''', (Saesneg: ''Mathern''. Yr enw gw...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
+
Llinell 3:
[[Pentref]] a chymuned yn [[Sir Fynwy]] yw '''Matharn''' neu '''Porthsgiwed''', ([[Saesneg]]: ''Mathern''. Yr enw gwreiddiol oedd '''Merthyr Tewdrig'''. Saif tua pum milltir i'r de-orllewin o dref [[Cas-gwent]], a ger y draffordd [[M48]] (Cyfeirnod OS: ST522912). Roedd poblogaeth y gymuned yn [[2001]] yn 990.
 
Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant [[Tewdrig]]. Yn ôl yr hanes yn [[Llyfr Llandaf]], roedd Tewdrig yn frenin [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a [[Glywysing]]. Tua'r flwyddyn 620 neu 630, ymladdodd yn erbyn y Sacsoniaid ger [[Tyndyrn]], gyda'i fab [[Meurig ap Tewdrig]]. Gorchfygwyd y Sacsoniaid, ond clwyfwyd Tewdrig yn y frwydr, a dygwyd ef yma, lle bu farw wedi i'w glwyfau gael eu golchi yn y ffynnon. Dywedir i Meurig roi'r tiroedd o amgylch yn rhodd i [[Esgob Llandaf]] er coffa am ei dad. Plas Matharn oedd unig gartref Esgob Llandaf am ganrifoedd. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r [[15fed ganrif]]. Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor gan [[Francis Godwin]], [[Esgob Llandaf]] 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.
 
Yn y gymuned yma mae pentref adfeiliedig Runston, sydd yn awr yng ngofal [[Cadw]].
 
 
==Cyfeiriadau==
*[[Wendy Davies]], ''The Llandaff Charters'' (Aberystwyth, 1979)
 
{{Trefi Sir Fynwy}}