Gên: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
 
=== Pysgod ===
Mae'n debyg bod yr ên fertebraidd wedi [[Esblygiad|esblygu]]'n wreiddiol yn [[Silwraidd|y cyfnod Silwraidd]] ac yn ymddangos yn y [[Pysgodyn|pysgod]] placoderm ac arallgyfeiriodd ymhellach yn y cyfnod  [[Defonaidd]]. Credir bod y ddau fwa ffaryngeal blaenaf wedi datblygu i ffurfio'r ên a'r [[bwa hyoid]], yn y drefn honno. Mae'r system hyoid yn crogiannu'r ên o [[Cawell yr ymennydd|gawell yr ymennydd]] yn y [[Penglog|benglog]], gan ganiatáu symudedd mawr yn y genau. Er nad oes unrhyw dystiolaeth ffosil sy'n uniongyrchol gefnogi'r ddamcaniaeth hon, mae'n gwneud synnwyr yng ngoleuni'r niferoedd o fwâu ffaryngeal sy'n weladwy mewn fertebratau hefo genau (y Gnathostomau), sydd â saith bwa, a fertebratau heb enau cyntefig (yr Agnatha), sydd a naw<ref>{{cite book|title=Development, function and evolution of teeth|last1=Smith|first1=M.M.|last2=Coates|first2=M.I.|date=2000|publisher=Cambridge University Press|isbn=978-0-521-57011-4|editor1-last=Teaford|editor1-first=Mark F.|location=Cambridge|page=145|chapter=10. Evolutionary origins of teeth and jaws: developmental models and phylogenetic patterns|editor2-last=Smith|editor2-first=Moya Meredith|editor3-last=Ferguson|editor3-first=Mark W.J.}}</ref>{{eginyn anatomeg‎}}
 
Credir bod y fantais ddewisol wreiddiol sy'n cael ei gynnig trwy esblygu gên yn gysylltiedig ag effeithlonrwydd [[anadlu]], yn hytrach nag at [[Bwyd|fwydo]]. Defnyddiwyd y genau yn y pwmp bochaidd (sydd i'w gweld mewn pysgod ac [[Amffibiad|amffibiaid]] modern) sy'n pwmpio dŵr ar draws tagellau pysgod neu aer i ysgyfaint amffibiaid. Dros gyfnod esblygodd defnydd mwy cyfarwydd yr enau (i bobl), sef bwydo. Swyddogaeth bwysig iawn mewn fertebratau. Mae llawer o bysgod teleost wedi addasu eu genau'n sylweddol ar gyfer sugno bwyd ac allwthiad ên, gan arwain at enau cymhleth iawn gyda dwsinau o esgyrn cysylltiedig.{{eginyn anatomeg‎}}