Fatah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B ehangu
Llinell 1:
Ystyr '''Fatah''' (Arabichefyd, '''Fateh'''; [[Arabeg]]: فتح‎), ydy 'agoriad', sef acronym (croes) o'r enw Arabeg '''Harakat al-Tahrir al-Watani al-Filastini''' (Arabeg: حركة التحرير الوطني الفلسطيني‎, sef yw hynny: [[Mudiad Rhyddid Palesteina|Mudiad Rhyddid Cenedlaethol Palesteinia]]). Mae'n blaid allweddol ac ynsy'n rhan bwysig (a'r cryfaf) o [[Mudiad Rhyddid Palesteina|Fudiad Rhyddid Palesteina]] neu'r PLO (y ''Palestine Liberation Organization'').
 
Yng ngwleidyddiaeth [[Palesteina]], saif ar y chwith-canol gyda thuedd [[sosialaeth|sosialaidd]]. Mae nifer o grwpiau'n perthyn i Fatah e.e. al-Assifa. Yn wahanol i'r grwpiau Islamaidd, nid yw Fatah, sy'n fudiad seciwlar, yn cael ei gydnabod fel mudiad terfysgol gan unrhyw lywodraeth.
 
Yn etholiad 25 Ionawr, 2006, collodd y blaid ei fwyafrif yn llywodraeth y [[Palesteiniaid]] - a hynny i [[Hamas]]. Ymddiswyddodd pob un o aelodau'r cabined gan gymryd swyddi yn yr wrth-blaid.
 
Bu rhwyg mawr rhwng Fatah a Hamas ar ôl hynny a arweiniodd at gyfnod o ymladd agored rhwng y ddwy blaid yn enwedig yn [[Llain Gaza]], ond yn wyneb [[Ymgyrch fomio Llain Gaza Rhagfyr 2008|ymosodiad Israel ar Lain Gaza]] ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009 cafwyd cydweithrediad agos rhwng ymladdwyr Fatah, Hamas a mudiadau eraill i wrthsefyll yr Israeliaid.
 
[[Categori:Palesteina| ]]