David Davies, Llandinam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manylion Aelod Seneddol
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Un o [[Diwydiant|ddiwydiannwyr]] mwyaf llwyddiannus Cymru yn y [[19eg ganrif]] oedd '''David Davies (Llandinam)''' ([[18 Rhagfyr]] [[1818]] - [[20 Gorffennaf]] [[1890]]). Fe'i ganwyd yn [[Llandinam]], [[Sir Drefaldwyn]] a chafodd ei alw'n ''Top Sawyer'' neu ''Davies the Ocean,'' ar ôl ''The Ocean Coal Company'' yn ogystal â'i llysenw mwy adnabyddus. Roedd yn [[Aelod Seneddol]] dros [[Ceredigion (etholaeth seneddol)|Geredigion]] a [[Aberteifi (etholaeth seneddol)|Aberteifi]] o [[1874]] hyd [[1886]] a chefnogodd sefydliad [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Coleg Prifysgol]] yn [[Aberystwyth]].
 
Roedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd ac yn dechrau gwaith fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu [[rheilffordd]] rhwng [[Llanidloes]] a [[Y Drenewydd|'r Drenewydd]]. Wedyn cafodd tir o'r teulu [[Crawshay (teulu)|Crawshay]] yng [[Y Rhondda|Nghwm Rhondda]] a dechrau [[pwll glo]] yno. Fodd bynnag, doedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen glo ddim yn llwyddianus a daeth ei arian i ben tra'n chwilio amdano. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno. Sylfaenwyd pyllau glo'r [[Pwll glo'r Parc|Parc]], [[Treorci]] a [[Maendy]] gan Davies. Oherwydd hynny, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.
 
Achos fod [[Ardalydd Bute]] yn dal i godi taliadau yn nociau [[Caerdydd]], adeiladodd Davies dociau glo newydd yn [[Y Barri]], porthladd mwyaf Cymru erbyn [[1914]].