UNRWA: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
Asiantaeth o'r [[Cenhedloedd Unedig]] yn y [[Lefant]] a sefydlwyd er mwyn rhoi cymorth i'r [[ffoaduriaid]] [[Palesteiniaid]] yn [[Llain Gaza]], [[Y Lan Orllewinol]], [[Gwlad Iorddonen]], [[Libanus]] a [[Syria]] yw '''UNRWA''' ([[Cymraeg]] [answyddogol]: 'Yr Asiantaeth dros Gymorth a Gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Agos'; [[Saesneg]]: ''UNRWA - United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East''; [[Ffrangeg]]: ''L'Office de secours et de travaux des Nations unies pour les réfugiés de Palestine dans le Proche-Orient''). Ei amcan yw ymateb i angenreidiau y ffoaduriaid hynny mewn meysydd fel [[iechyd]], [[addysg]], [[cymorth dyngarol]] a [[gwasanaethau cymdeithasol]]. Mae gan yr asiantaeth cyfrifoldeb i ofalu am dros 4.6 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd yn y [[Dwyrain Canol]]
 
Creuwyd UNRWA ar ddiwedd y Rhyfel Arabaidd-Israelaidd cyntaf yn 1948 dan Benderfyniad 302 (IV) [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] a basiwyd ar yr 8fed o Ragfyr 1949. Mae mandad UNRWA, a oedd i fod yn un dros dro yn unig yn wreiddiol, wedi cael ei adnewyddu sawl gwaith ers hynny gan [[Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig]].
 
Mae gwaith UNRWA wedi bod yn arbennig o bwysig yn y [[rhestr gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd|gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd]] lle mae'r asiantaeth yn rhedeg nifer o ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae ganddi staff o 29,000, y rhan fwyaf ohonynt yn ffoaduriaid eu hunain, sy'n gweithio fel athrawon, meddygon, nyrsus a gweithwyr cymdeithasol yn y cymunedau neu'n helpu trefnu gwaith yr asiantaeth, sy'n golygu mai UNRWA yw asiantaeth fwyaf y Cenhedloedd Unedig yn y Dwyrain Canol.
 
Oherwydd ei safiad dros hawliau'r Palesteiniaid mae UNRWA wedi cael ei beirniadu gan rai llywodraethau yn y gorffennol. Ychydig iawn o arian caiff yr asiantaeth gan yr [[Unol Daleithiau]], er enghraifft, mewn cymhariaeth â'r cymorth ariannol caiff [[Israel]] gan lywodraeth y wlad honno.