Robert Thompson Crawshay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

metelegwr (1817-1879)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd '''Robert Thompson Crawshay''' (8 Mawrth 1817 - 10 Mai 1879). Ganed ef yng [[Cyfart...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:11, 7 Ionawr 2009

Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd Robert Thompson Crawshay (8 Mawrth 1817 - 10 Mai 1879).

Ganed ef yng Nghyfartha. Roedd yn fab i William Crawshay II. Pan ymddeolodd William Crawshay i Caversham yn Lloegr yn 1847, trosglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i Robert, a'r gweithfeydd haearn eraill i ddau fab arall.

Daeth Robert yn ffigwr dylanwadol dros ben ym mywyd diwydiannol de Cymru, er i anghydfod diwydiannol efeithio ar weithfeydd Cyfarthfa yn y 1870au. Robert oedd yn gyfrifol am sefydlu Band Cyfarthfa. Dywedir ei fod hefyd yn ferchetwr o fri.

Bu farw pan ar ymweliad a Cheltenham. Claddwyd ef ym mynwent y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me".

Llyfryddiaeth