Ffredrig I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Gothus (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Ffrederic I''', llysenw '''Barbarossa''' ("barfgoch") ([[1122]] – [[10 Mehefin]] [[1190]]) yn aelod o dylwyth yr [[Hohenstaufen]], ac o [[1155]] hyd ei farwolaeth roedd yn [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]].
 
Etifeddodd dywysogaeth Swabia fel Ffrederic III, ac ar [[9 Mawrth]] [[1152]] coronwyd ef yn frenin [[yr Almaen]] yn [[Frankfurt]]. Ar [[18 Mehefin]] [[1155]] yn Rhufain, coronodd [[Pab Adrian IV|Pab Adrianus IV]] ef yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn [[Rhufain]]. Yn [[1156]] priododd [[Beatrix I o Fwrgwyn]], a thrwy'r briodas yma daeth [[Bwrgwyn]] yn eiddo iddo yn [[1178]].
 
Gwrthwynebwyd ef gan ddinasoedd gogledd [[yr Eidal]], a ffurfiodd [[Cynghrair Lombardi|Gynghrair Lombardi]] yn ei erbyn. Llwyddasant i'w orchfygu ym mrwydr Legnano yn 1176. Yn [[1183]], daethant i gytundeb, gyda'r finasoedd yn cydnabod Ffrederic fel ymerawdwr. Yng nghanolbarth yr Eidal, daeth i wrthdrawiad a'r Pab. Yn ne'r Eidal, priododd ei fab, Henri VI, a merch brenin [[Sicilia]], a llwyddasant i gipio Sicilia oddi wrth y [[Norman]]iaid.