Ostrogothiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
Gothus (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd yr '''Ostrogothiaid''' (Greuthung neu y Gothiaid Disglair), yn un o'r ddwy gangen o'r [[Gothiaid]], llwyth Germanaidd yn wreiddiol o'r diriogaeth sy'n awr yn ddwyrain [[Yr Almaen]]. Cangen arall y Gothiaid oedd y [[Fisigothiaid]].
 
Ymddengys i lwyth y Gothiaid ymrannu yn ddau rywbryd tua'r [[3g]]. Ymddengys i'r Ostrogothiaid sefydlu teyrnas rhwng [[Afon Donaw]] ac [[Afon Dnieper|Afon Dniepr]] yn yr hyn sy'n awr yn [[Rwmania]]. Daethant dan reolaeth yr [[Huniaid]] am gyfnod, gan ymladd gyda'r Huniaid ym [[Brwydr Chalons|Mrwydr Chalons]] yn [[451]]. Wedi marwolaeth [[Attila]] yn 453 daethant yn annibynnol, a gorchfygasant feibion Attlia ym Mrwydr Neadao [[454]] dan [[Theodemir]].
 
Daethant i gytundeb a'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] a sefydlwyd hwy yn [[Pannonia]]. Yn [[488]] daeth mab Theodemir, [[Theodoric Fawr]], i gytundeb a'r Ymerawdwr Rhufeinig yn y dwyrain, Zeno, i gipio [[Yr Eidal]] oddi wrth [[Odoacer]]. Cipiwyd [[Ravenna]] yn [[493]], a chymerodd Theodoric y ddinas yma fel ei brifddinas. Meddiannodd yr Eidal i gyd, a chredir i hyd at 250,000 o Ostrogothiaid ymsefydlu yno. Daeth Theodoric hefyd yn reolwr y Fisigothiaid yn [[Sbaen]].