Llanilltud Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
6 ganrif a tharddiad
Llinell 4:
</table>
 
Mae '''Llanilltud Fawr''' yn dref ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]], de [[Cymru]] (Cyfeirnod OS: SS9768).
 
Ceir olion hen fila [[Rhufeiniaid|Rhufeinig]] tua 1 filltir o'r dref.
 
Mae hen eglwys [[Sant]] [[Illtud]] yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog ([[clas]]) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6ed ganrif. Daeth yn ganolfan [[dysg]] bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel [[Hywel ap Rhys]], brenin [[Glywysing]] (m. [[886]]), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y [[Llychlynwyr]] yn [[988]]. Daeth yr eglwys yn eiddo [[Abaty Tewkesbury]] tua [[1130]] ar ôl i'r [[Normaniaid]] orsegyn [[teyrnas Morgannwg]].
 
Mae'n bosibl fod y bardd [[Lewys Morgannwg]] (fl. [[1520]]-[[1565]]) yn byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o [[Tir Iarll|Dir Iarll]]. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.
 
Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, "Llan Iltut", sy'n dangos yn amlwg mai "Illtud" yw tarddiad y gair, nid "twit" (''Llantwit Major'' ydy'r gair yn Saesneg).
 
{{Trefi_Bro_Morgannwg}}