Sgript Gothig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Sgript]] yw '''sgript Gothig''' a ddefnyddiwyd mewn [[Gorllewin Ewrop]] o tua 1150 hyd y 17g. Defnyddiwyd yn yr iaith [[Almaeneg]] hyd yr 20g.<ref>http://medieval.stormthecastle.com/essays/medieval-writing-page-2.htm</ref> Yn nyddiau cynnar [[argraffu]], sgript Gothig oedd y [[teip (teipograffeg)|teip]] mwyaf cyffredin.<ref name="Brewer's">Rockwood, Camilla (gol.). ''[[Brewer's Dictionary of Phrase and Fable]]'', 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 147.</ref>
 
Gelwir y teip weithiau'n 'Blackletter' neu 'Fraktur'. Ceir amrywiaethau o ddulliau ysgrifennu oddi fewn i sgript Gothig gan gynnwys arddulliau llawysgrifen. Yn ei plith oedd [[Kurrent]] ac yna [[Sütterlin]] a fabwysiadwyd rhwng 1915 a diwedd yr Ail Ryfel Byd.
 
Bu dadlau chwyrn yn ystod y [[19g]] yn y tiroedd [[Almaeneg]] ar ba sgript neu ffont i'w ddefnyddio wrth ysgrifennu ac argraffu - y Ddadl Antiqua-Fraktur. Antiqua oedd yr arddull 'Lladin' a fabwysiadwyd gan Ffrainc a'r rhan fwyaf o Ewrop erbyn y cyfnod hwnnw. Daeth yr ysgrifen Gothig (neu Fraktur, fel y gelwid hefyd) yn symbol o genedligrwydd ac arwahanrwydd yr iaith a'r diwylliant Almaeneg.