John Josiah Guest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (2), Yr oedd → Roedd , ym Mhrydain → yng ngwledydd Prydain using AWB
Llinell 27:
 
==Gyrfa Wleidyddol==
Etholwyd Guest yn [[Aelod Seneddol]] Annibynnol dros etholaeth Honington, Dyfnaint ym 1826 a'r addewid o ymddwyn fel ''cyfaill i ryddid crefyddol a sifil''<ref>Trewman’s Exeter Flying Post, Tud 15, 22 Mehefin, 1826</ref> gan gadw at ei addewid; bu'n gwrthwynebu, caethwasiaeth, cyfreithiau gwrth Catholigion a chyfreithiau [[Diffyndollaeth|diffyndollau]] a oedd yn codi prisiau nwyddau i'r tlodion. Roedd yn frwd o blaid diwygio'r Senedd ac fe fu yn allweddol yn sicrhau bod etholaeth [[Sir Forgannwg (etholaeth seneddol)|Sir Forgannwg]] yn cael aelod ychwanegol a bod [[Bwrdeistref Merthyr Tudful (etholaeth seneddol)|Bwrdeistref Merthyr Tudful]] a [[Dosbarth Abertawe (etholaeth seneddol)|Dosbarth Abertawe]] yn cael cynrychiolaeth Seneddol. Doedd ei frwdfrydedd dros ddiwygio ddim yn boblogaidd yn etholaeth Honiton, sedd dau aelod yn cynrychioli un dref marchnad; yn Etholiad Cyffredinol 1831 syrthiodd o frig y pôl i'r trydydd safle gan golli ei sedd.
 
Ym 1832 safodd fel Chwig / Rhyddfrydwr yn etholaeth newydd Merthyr gan gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832 ac 1835. Penderfynodd sefyll dros etholaeth Sir Forgannwg yn etholiad 1837, ond heb lwyddiant. Cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] doedd etholiadau ddim yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ym mhob un etholaeth, ond ar ddiwrnod a benodwyd gan y swyddog canlyniadau ar unrhyw ddydd yn ystod y cyfnod etholiadol; wedi methu cael ei ethol yn y Sir, safodd eto yn etholiad 1837 yn etholaeth Merthyr Tudful fel ymgeisydd Rhyddfrydol, er bod y Rhyddfrydwyr lleol eisoes wedi dewis ymgeisydd, John Bruce. Llwyddodd Guest i ddod i frig y pôl a chadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd ei farwolaeth.<ref>The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, gol. D.R. Fisher, 2009; ''GUEST, Josiah John (1785-1852), of Dowlais House, nr. Merthyr Tydvil, Glam.'' [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/guest-josiah-1785-1852] adalwyd 1 Medi, 2015</ref>