Cellbilen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mme (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Yn amgylchynu pob cell byw mae haen denau sy’n gwahanu sytoplasm y gell o’r amgylchedd allgellog. Y gellbilen yw’r haen hon ac y mae gweithrediad cywir y bilen yn angenrheidiol...
 
Mme (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 25:
Gweler fod hyn yn debyg i gellbilen sy’n gwahanu amgylchedd dyfriol y gell o’r amgylchedd dyfriol allgellog. Fe awgrymir felly mai un o’r camau cyntaf mewn esblygiad bywyd oedd ffurfiant haen ddeulipid o gwmpas hydoddiant gan ei wahanu o’i amgylchedd.
 
Ffosffolipidau yw’r lipidau mwyaf niferus mewn pilenni. Mae gan bob ffosffolipid ben polar, hydroffilig a dwy gynffon asid brasterog hydroffobig rhwng 14 a 24 carbon o hyd gan amlaf. Y pedwar ffosffolipid mwyaf niferus mewn pilenni yw phosphatidylcholine, phosphatidylethanolamine, phosphatidylserine a sphingomyelin. Mae ffosffolipidau yn lipidau siâp silindr sydd felly yn ffurfio haenau deulipid yn ddigymell mewn dw^r. Mae ffosffolipidau felly yn bwysig er mwyn creu a chynnal haen ddeulipid y bilen yn ogystal â chwarae rhannau yng ngweithrediadau penodol y bilen.
 
Yn y bilen hefyd y mae glycolipidau a sterolau. Ffurfir glycolipidau drwy gysylltu un neu fwy o waddodion carbohydrad â molecwl lipid. Yn haen allanol yr haen ddeulipid yn unig y darganfyddir glycolipidau; yma mae tua 5% o’r lipidau yn glycolipidau.
 
Mae sterolau’n bresennol yn y rhan fwyaf o gellbilenni celloedd ewcaryotig. Y prif sterol yng nghellbilenni celloedd anifeiliaid yw colesterol, a'r prif sterol yng nghellbilenni celloedd planhigion yw ffytosterol. Mae gan colesterol adeiledd cylchol anhyblyg gydag un grw^p hydrocsyl sy’n hydroffilig; mae gweddill y molecwl yn hydroffobig. Ar wahanol dymereddau mae colesterol yn effeithio hylifedd pilenni mewn gwahanol ffyrdd. Mae colesterol yn lleihau hylifedd pilenni ar dymheredd uchel drwy leihau symudiad ffosffolipidau’r bilen gan fod colesterol yn folecwl anhyblyg. Ar dymereddau isel, mae colesterol yn cynyddu hylifedd pilenni drwy atal ffosffolipidau’r bilen rhag pacio’n agos at ei gilydd.
 
== Beth yw priodweddau’r haen ddeulipid? ==