Cellbilen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mme (sgwrs | cyfraniadau)
cychwyn tacluso; mae hon yn erthygl arbennig o dda.
Llinell 1:
[[Delwedd:Cell membrane detailed diagram 4.svg|bawd|400px|Delwedd o gellbilen 'Eukaryotic'.]]
Yn amgylchynu pob [[cell byw]] mae haen denau sy’n gwahanu [[sytoplasm] y gell o’r amgylchedd allgellog. Y '''gellbilen''' yw’r haen hon ac y mae gweithrediad cywir y bilen yn angenrheidiol i fywyd y gell.
 
Mae’r gellbilen yn diffinio [[perimedr]] y gell drwy greu rhwystr rhwng sytoplasm y gell a’r amgylchedd allgellog, ond mae’r gellbilen yn haen ddetholus athraidd ('selectively permeable') sy’n caniatáu symudiad rhai sylweddau dros y bilen ac yn cyfyngu symudiad sylweddau eraill.
 
Gall y gell, felly dderbyn sylweddau angenrheidiol o’r amgylchedd allgellog a chael gwared â sylweddau gwastraff o’r gell drwy eu rhyddhau i’r amgylchedd allgellog. Gall rhai sylweddau bach, amholar megis ocsigen a charbon deuocsid groesi’r gellbilen yn rhwydd drwy drylediad syml ('simple diffusion') i lawr eu graddiannau crynodiad, ond nid yw hyn yn bosibl i ïonau a molecylau polar, er enghraifft carbohydradau ac asidau amino. Yn hytrach, mae'r rhain yn dibynnu ar broteinau cludo penodol sy’n bresennol yn y gellbilen i’w cludo dros y gellbilen. Gall y cludiant fod i lawr eu graddiannau crynodiad neu eu graddiannau electrogemegol drwy broses a elwir yn drylediad cynorthwyedig ('facilitated diffusion') neu i fyny eu graddiannau crynodiad neu eu graddiannau electrogemegol drwy broses sy’n defnyddio egni a elwir yn gludiant gweithredol.
Llinell 8 ⟶ 9:
== Beth yw adeiledd y bilen? ==
 
Mae gweithrediadau cellbilenni gwahanol gelloedd yn amrywio er mwyn bod yn addas ar gyfer swyddogaethau penodol gwahanol gelloedd. Hefyd, o fewn cell ewcaryotig, y mae pilenni tebyg i’r gellbilen yn amgylchynu organynnauorganebau megis [[mitocondria]], cloroplastau[[cloroplast]]au a’r [[cnewyllyn]]. Er fod gan yr holl bilenni hyn wahanol weithrediadau, mae adeiledd sylfaenol pob pilen yn debyg. Yn syml, mae pob pilen yn haen denau o [[lipid|lipidau]] a [[protein|phroteinau]] wedi eu dal at ei gilydd drwy ryngweithiadau di-gofalent.
 
Ym 1972 fe ddatblygwyd model o adeiledd y bilen gan y gwyddonwyr S.J. Singer a G. Nicolson. Enw y model hwn, a dderbynnir yn gyffredinol hyd heddiw fel y model mwyaf cywir o adeiledd y bilen, yw'r model mosäig hylifol.
Llinell 56 ⟶ 57:
3)Fe gysylltir y trydydd math o broteinau â’r bilen drwy gysylltiad cofalent rhwng y proteinau a lipidau arbennig er mwyn i’r lipidau osod yn yr haen ddeulipid i angori’r proteinau i’r bilen.
 
 
[[Categori:Celloedd]]
[[Categori:Bioleg]]
 
 
[[ar:غشاء خلوي]]
[[bg:Клетъчна мембрана]]
[[ca:Membrana plasmàtica]]
[[cs:Cytoplazmatická membrána]]
[[da:Cellemembran]]
[[de:Zellmembran]]
[[en:cell membrane]]
[[et:Rakumembraan]]
[[es:Membrana plasmática]]
[[eo:Ĉelmembrano]]
[[fa:غشاء سلولی]]
[[fr:Membrane plasmique]]
[[ko:세포막]]
[[id:Membran sel]]
[[is:Frumuhimna]]
[[it:Membrana cellulare]]
[[he:קרום התא]]
[[lv:Šūnas membrāna]]
[[lb:Zellmembran]]
[[lt:Plazminė membrana]]
[[mk:Клеточна мембрана]]
[[ms:Membran plasma]]
[[nl:Celmembraan]]
[[ja:細胞膜]]
[[no:Cellemembran]]
[[oc:Membrana plasmica]]
[[pl:Błona komórkowa]]
[[pt:Membrana plasmática]]
[[ru:Клеточные мембраны]]
[[simple:Cell membrane]]
[[sk:Cytoplazmatická membrána]]
[[sl:Celična membrana]]
[[sr:Ћелијска мембрана]]
[[su:Mémbran sél]]
[[fi:Solukalvo]]
[[sv:Cellmembran]]
[[th:พลาสมา เมมเบรน]]
[[uk:Цитоплазматична мембрана]]
[[vi:Màng tế bào]]
[[tr:Hücre zarı]]
[[zh:细胞膜]]