Swffragét: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Suffragette" |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:07, 22 Chwefror 2018
Roedd y Syffraget yn aelodau o fudiad merched yn yr 19g hwyr a dechrau'r 20g oedd yn hyrwyddo 'etholfraint', neu'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Cyfeiria'n benodol at aelodau megis Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU).
Cysylltir y term Syffraget yn benodol gyda ymgyrchwyr o'r WSPU Prydeinig, a'u harweinydd Emmeline Pankhurst, gafodd ei dylanwadu gan dulliau Rwsiaidd o brotestio e.e. ymprydio. Er i Ynys Manaw ganiatau merched oedd berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1881, Seland Newydd oedd y wlad hunan-lywodraethol cyntaf i ganiatau hawl i bob menyw dros 21 oed bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1893.[1] Llwyddodd merched yn Ne Awstralia i gael yr un hawliau ac i gael yr hawl i gael eu hethol yn 1895.[2] Yn yr Unol Dalieithiau , roedd gan ferched gwyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio yn Wyominng o 1896 ac yn Utah o 1870. Er hynny, yn 1903 nid oedd merched ym Mhrydain yr hawl i bleidleisio a phenderfynodd Pankhurst bod rhaid i'r mudiad ddod yn radical a milwriaethus i fod yn effeithiol. Yn rhan o'r ymgyrchu roedd difrodi eiddo, ymprydio a charcharu tan ddechrau'r rhyfel yn 1914.
Daeth yr hawl, i ferched ym Mhrydain dros 30 oed, gydag amodau eiddo penodol, bleidleisio yn 1918, ac yn 1928 daeth hynny'n wir i pob menyw dros 21 oed.[3]
Carcharu
Ar ddechrau'r 20g hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf carcharwyd tua mil o Syffragets ym Mhrydain.[4]
Difrodi eiddo
Yn ystod symudiad y Syffraget ym Mhrydain roedd cynnwys blychau post yn cael eu rhoi ar dan neu roedd asid neu hylif ysol yn cael ei dollti dros llythyrau a chardiau post. Difrodwyd ffenestri siopau a swyddfeydd gyda morthwylion. Torrwyd gwifrenni ffon a gwelwyd slogannau graffiti ar y strydoedd.[5] Targedwyd Plas Pinfold yn Surrey, oedd wedi ei adeiladu i David Lloyd-George, gyda dau fom ar Chwefror 19, 1913. Ffrwydrodd un gan greu difrod mawr. Yn hunangofiant Sylvia Pankhurst mae'n honni mai Emily Davison oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Ymprydio
Y ddynes gyntaf i ymprydio dros achos y Syffragets oedd Marion Wallace Dunlop. Cafodd ei charcharu am fis ym mis Gorffennaf 1909 am fandaliaeth.[6] Ar ol 91 awr o ymprydio cafodd ei rhyddhau gan i'r Ysgrifennydd Cartref, Herbert Gladstone ofni iddi ddod yn ferthyr.[7]
- ↑ Ida Husted Harper. History of Woman Suffrage, volume 6 (National American Woman Suffrage Association, 1922) p. 752.
- ↑ "Foundingdocs.gov.au". Foundingdocs.gov.au. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2010. Cyrchwyd 8 January 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Crawford 1999.
- ↑ Purvis 1995, t. 103.
- ↑ Porter, Ian. "Suffragette attack on Lloyd-George". London walks. London Town Walks. Cyrchwyd 4 February 2013.
- ↑ Purvis, ""Deeds, Not Words"", 97
- ↑ Geddes 2008, t. 82.