Wranws (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Gwaith Twm Elias
Llinell 90:
Y seithfed [[planed|blaned]] oddi wrth yr [[Haul]] a'r trydydd mwyaf o ran tryfesur yw '''Wranws'''. Mae Wranws yn fwy ei dryfesur ond yn llai ei gynhwysedd na [[Neifion (planed)|Neifion]]. Enwyd Wranws ar ôl [[Wranos (duw)|Wranos]], duw Groeg y nefoedd.
 
Un rheswm pam na adnabyddwyd Iwranws fel planed tan 1781 oedd ei bod mor eithriadol o bell, ddwywaith pellach na Sadwrn o'r haul. Golyga hynny ei bod yn ymddangos yn fechan iawn iawn o'r ddaear (prin iawn yn weladwy â'r llygad noeth) ond hefyd mae'n eithriadol o araf yn teithio rownd yr haul – unwaith bob 84 mlynedd. Mewn gwirionedd roedd sawl seryddwr wedi ei nodi fel seren ers 1690, ond neb cyn Herschell wedi sylwi ei bod yn symyd yn araf bach.
 
MAe Iwranws yn cymeryd 84 mlynedd i gylchdroi am yr haul – blwyddyn Iwranaidd go hir felly – ac mae'n cylchdroi ar ei hechel bob 17 awr, sy'n eitha cyflym o ystyried ei maint ac yn golygu bod gwyntoedd cryfion iawn yn chwyrlîo ar ei hwyneb. Nodwedd anarferol yw fod gogwydd ei chylchdroi 'dyddiol' ar ongl o 98° i'r fertigol. Hynny yw, mae fel 'tae'n gorwedd ar ei hochr o'i chymharu â'r planedau eraill. Un damcaniaeth i esbonio hynny yw ei bod wedi gwrthdaro a chorff arall yn y gorffennol pell a bod hynny wedi ei thaflu oddiar ei hechel.
 
==Yr enw==
Bu dipyn o firi ynghlyn ag enwi'r corff gofodol newydd. Roedd Herschell, fel sais teyrngar a oedd, yn sgîl ei ddarganfyddiad, bellach yn cael ei noddi'n hael gan y Brenin Sior III ac am ei henwi'n 'Georgium Sidus' neu'r blaned George ar ôl ei noddwr. Diolch i Dduw chafodd y syniad hwnnw fawr o groeso gan seryddwyr dramor. Cynigion eraill oedd 'Neptune', 'Herschillium' neu'r blaned Herschell ac Uranus.
 
Ymhen amser yr enw 'Uranus', gynigiwyd gan y seryddwr Almaenig Johann Bode, ddaeth i'r brîg. Dyma'r ffurf Ladin o Ouranos, sef duw'r awyr gwreiddiol y Groegiaid, gafodd ei sbaddu a'i ladd gan ei fab Cronos (Sadwrn) cyn i Cronos yntau gael ei drechu yn ei dro gan ei fab Zeus (Iau) a ddaeth yn frenin y duwiau (gweler rhif 7 o'r gyfres hon, Llafar Gwlad 98). Dadl Bode oedd, am mai Sadwrn oedd tad Iau, y dylsai'r blaned newydd gael ei henwi ar ôl tad Sadwrn, er mwyn cwbwlhau'r olyniaeth fel 'tae.
 
Daliodd llawer iawn o gyhoeddiadau seisnig at yr enw 'Georgium Sidus' tan yr 1850au. Mae'n ddiddorol bod ''Elfennau Seryddiaeth'', gyhoeddwyd gan Thomas Gee yn 1851 yn dal i arddel yr enw Herschell, gan ychwanegu: ' Ond ar hyn o bryd, yn enwedi gan seryddion tramor, Uranus yw enw mwyaf cyffredin y blaned hon.'
 
Herschell oedd yr enw hefyd yn ''Yr Anianydd Cristnogol'' (21ain arg., 1856), sef cyfieithiad y Parch Thomas Levi o waith Thomas Dick, lle dywed (tud. 209) bod bywyd arni: '…gallwn fod yn sicr, i'r hwn a osododd fodau teimladol mewn unrhyw barth, gymhwyso, yn ol deddfau anadnabyddus…(g)yfansoddiad yr aneddwr â natur ei aneddle.'
:'…A'u cyflwr wedi'i wneuthur at y lle
:A drefnwyd gan Ragluniaeth ddoeth y Ne.'
 
 
==Dargafyddiad==
Darganfuwyd Wranws, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn amserau modern, gan [[William Herschel]] ar [[13 Mawrth]] [[1781]]. Roedd mewn gwirionedd wedi cael ei gweld llawer gwaith o'r blaen ond wedi cael ei ystyried yn seren (cafodd ei gatalogio fel '''34 Tauri''' ym [[1690]] gan [[John Flamsteed]]). Cafodd ei enwi gan Herschel fel "the Georgium Sidus" (y blaned Sioraidd) i anrhydeddu ei noddwr, [[Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig]]; roedd eraill yn ei galw wrth yr enw "Herschel". Cafodd yr enw "Wranws" ei gynnig gan [[Bode]] mewn cydymffurfiaeth â'r enwau planedol eraill o [[mytholeg Glasurol|fytholeg glasurol]] ond ni ddaeth mewn defnydd cyffredin tan [[1850]].
 
Roedd y darganfyddiad yn peri dipyn o benbleth, embaras hyd'noed, i astrolegwyr. Hyd yn hyn roedd y planedau yn ffitio'n daclus iawn i batrwm cyfarwydd a hir-sefydliedig lle roedd gan bob un ei heffaith benodol (honedig) ar ein tynghedau ni ddaearolion wrth iddynt deithio'r llwybr drwy'r gofod oedd yn mynd a nhw ar draws y cytserau a elwir yn 12 arwydd y Sidydd. Ystyrid, er enghraifft, y byddai pa bynnag blaned ddigwyddai fod yn croesi eich arwydd Sidydd adeg eich genedigaeth yn ddylanwadol iawn arnoch am weddil eich oes.
 
I ddilynwyr y cyfundrefnau astrolegol Tsieiniaidd ac Indiaidd yr ateb hawdd oedd anwybyddu'r blaned newydd yn llwyr gan ei hystyried yn rhy bell i gael unrhyw effaith. Hydnoed yma, gwelwn nad oes son am Iwranws yng ngwaith yr astrolegwr / almanaciwr R Jones yn ei 'Seryddiaeth' (1830). Ond yn raddol, yma yn y gorllewin, aethpwyd ati i greu rôl newydd iddi a bellach fe'i cysylltir â deallusrwydd, dilyn eich trywydd eich hun, syniadau anghonfensiynnol a darganfyddiadau. Mae hyn yn codi, i raddau helaeth iawn, o'r ffaith fod darganfyddiad Iwranws, ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn Oes yr Ymoleuo (Enlightenment) pan ddaeth bri ar syniadau am ddemocratiaeth, cyfiawnder a hawliau dynol. Gwelwn hyn yn yr egwyddorion tu cefn i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau newydd a'r Chwyldro Ffrengig. Dyma hefyd gyfnod yr Oes Ramantaidd gyda'i phwyslais ar unigolyddiaeth a rhyddid mewn mynegiant celfyddydol.
 
==Ymweliadau==
Ymwelwyd Wranws ar [[24 Ionawr]] [[1986]] gan [[Voyager 2]]. Mae'r rhan fwyaf o'r planedau'n troi ar echel sydd bron â pherpendicwlar i arwyneb y rhod ond mae echel Wranws bron â bod yn gyfochrog i'r rhod. Yn ystod ymweliad Voyager 2 roedd pegwn deheuol Wranws yn pwyntio tua'r Haul. Canlyniad hyn ydy bod ardaloedd pegynol Wranws yn derbyn mwy o egni'r Haul nag ei hardaloedd cyhydeddol. Serch hynny, mae Wranws yn fwy poeth ei gyhydedd nag ei begynau. Ni wybyddir y mecanwaith sy'n achosi hynny.
 
==Gwneuthuriad==
Cyfansoddir Wranws yn anad dim o greigiau a rhewogydd amrywiol, gyda dim ond 15% [[hydrogen]] ac ychydig [[heliwm]]. Ymddengys nad oes calon greigiog gan Wranws eithr mae ei deunydd mwy neu lai wedi ei ddosbarthu'n unffurf.
 
Llinell 106 ⟶ 129:
Darganfuwyd 10 [[lloeren]] fach gan [[Voyager 2]]. Roedd eisoes 5 lloeren fawr ganddi. Mae'n debyg fod yna rhagor o loerennau o fewn y modrwyau.
 
==Lloerennau==
Mae gan Wranws 21 o loerennau (neu 'leuadau') sydd wedi cael eu henwi a 6 lloeren heb enw.
Yn wahanol i gyrff eraill [[Cysawd yr Haul]] sydd wedi eu henwi ar ôl cymeriadau o fytholeg glasurol, mae lloerennau Wranws yn cymryd eu henwau o ysgrifau [[Shakespeare]] a [[Alexander Pope|Pope]].
 
Lleuadau gweddol fychan yw'r rhain – dydy'r mwya ohonynt, Titania, ddim cymaint a hanner maint ein Lleuad ni ac ni fyddai'r cwbwl ohonynt efo'i gilydd ond tri chwarter maint y Lleuad beth bynnag.
 
Yn wahanol i brif leuadau'r 'hen' blanedau, fe enwyd lleuadau Iwranws ar ôl cymeriadau allan o weithiau [[Shakespeare]] ag [[Alexander Pope]], e.e. Miranda, Ariel, Umbriel, Titania ac Oberon ayyb. Ymgais oedd hyn i'w delweddu fel planed 'fodern', gan symud i ffwrdd o'r traddodiad o enwi cyrff gofodol ar ôl duwiau ac arwyr y Rhufeiniaid – sylwer mai Iwranws yw'r unig blaned gafodd ei henwi ar ôl duw Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig.
 
{{Nodyn:Priodoliad Twm Elias|: Gwyddoniadur Cymru|Gwasg y Brifysgol}}
{{planedau}}