Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Comedi stand-yp"

Ychwanegwyd 3 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
B (Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Comedi ar ei sefyll i Comedi stand-yp: gweler y Sgwrs)
 
==Yng Nghymru==
Yng ngwledydd Prydain mae comedi stand-yp yn draddodiad sy'n deillio yn wreiddiol o neuaddau gerddoriaeth yn yr 18fed a'r 19eg ganrif, gyda pherfformwyr unigol ar lwyfan theatr, yn dweud jôcs neu adrodd stori. Yng Nghymru roedd llai o gyfleoedd i berfformio'n broffesiynol ac roedd traddodiad yn fwy gwerinol ac amatur, gyda cyfleoedd i berfformio comedi mewn eisteddfodau, clybiau cymdeithasol, tafarndai, nosweithiau llawen a chlybiau ffermwyr ifanc. Arweinydd noson adloniant fyddai'r digrifwr fel arfer yn llenwi bwlch rhwng pob eitem. Mae'r digrifwr [[Idris Charles]] yn cofio trefnu nosweithiau yn niwedd y 1960au a'r 1970au gyda digrifwyr fel Dilwyn Edwards, [[Glan Davies]], [[Trefor Selway], Alun Lloyd, Mair Garnon a Peter Hughes Griffiths.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33973217|teitl="Glywsoch chi'r jôc?..."|dyddiad=18 Awst 2015|dyddiadcyrchu=15 Mawrth 2016|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw}}</ref>
 
Yn y 1970au a'r 1980au datblygodd arddull fodern stand-yp ar y cyd â chomedi angen, gyda mwy o bwyslais ar ddychan, wleidyddiaeth neu arsylwadau am fywyd. Yn y 1990au fe ddaeth stand-yp Cymraeg i sylw eto ac yn 1996 ac 1997 darlledwyd ''Y Jocars'' ar S4C, cyfres a gynhyrchwyd gan Idris Charles. Fe ymddangosodd mwy o ddigrifwyr Cymraeg yn y 2000au gyda llawer yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg yn yr un math o glybiau a digrifwyr eraill, er nad oedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar deledu.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35802044|teitl=Y Beatles Cymraeg?|dyddiad=15 Mawrth 2016|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw}}</ref> Yn y 2010au darlledodd S4C sawl gyfres gomedi stand-up yn cynnwys ''GigL'', ''Gwerthu Allan'' a noson gomedi arbennig yn Eisteddfod 2013, ''Y Babell Lon''.