Sophie Scholl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{infobox person/Wikidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no}} Roedd '''Sophia Magdalena Scholl''' (9 Mai 1921 - 22 Chwefror 1943) yn ymgyr...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Cafodd ei dyfarnu'n euog o uchel frad ar ôl cael ei ddarganfod yn dosbarthu taflenni gwrthryfel ym Mhrifysgol Munich gyda'i brawd, [[Hans Scholl|Hans]]. O ganlyniad, fe'u dienyddwyd gan gilotîn. Ers y 1970au, mae Scholl wedi cael ei goffáu'n helaeth am ei gwaith gwrthsefyll Natsïaidd.
 
Bywyd Cynnar
Ganwyd Scholl yn Forchtenberg am Kocher, Baden-Württemberg yn ferch i Robert Scholl, maer y dref ar adeg ei genedigaeth, a Magdelena (née Müller) ei wraig. Roedd Robert Scholl yn wleidydd rhyddfrydol ei ddaliadau ac yn feirniad o'r Natsïaid.
 
Roedd Sophie yn bedwaredd o chwech o blant:
 
* Inge Scholl (Aicher) (1917–1998)
* [[Hans Scholl]] (1918–1943), cafodd ei ddienyddio gyda'i chwaer
* Elisabeth Scholl (Hartnagel) (ganwyd 1920), priododd gariad hirdymor Sophie, Fritz Hartnagel
* [[Sophie Scholl]] (1921–1943)
* Werner Scholl (1922-1944) wedi mynd ar goll wrth wasanaethu yn y fyddin; rhagdybir ei fod wedi marw ym mis Mehefin 1944
* Thilde Scholl (1925–1926)