Afon Teifi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu ychydig
Llinell 1:
Mae '''Afon Teifi''' yn afon yng nghanolbarth [[Cymru]] sy'n llifo i [[Bae Ceredigion|Fae Ceredigion]] gerllaw [[Aberteifi]]
 
Mae Afon Teifi yn tarddu yn [[Llyn Teifi]] yn rhan ogleddol [[Ceredigion]], i'r dwyrain o bentref [[Fair-rhos]]. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio [[Abaty Ystrad Fflur]] mae'n cyrraedd pentref [[Pontrhydfendigaid]] ac yna yn troi tua'r de-orllewin a llifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref [[Tregaron]] ac yna'n llifoparhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio [[Llanddewi Brefi]], lle mae Afon Brefi yn ymuno a hi, [[Llanfair Clydogau]], [[Cwmann]], [[Llanbedr Pont Steffan]], a [[Llanybydder]],. Ychydig cyn cyrraedd [[Llandysul]] mae [[Afon Cletwr]] yn ymuno a hi, yna mae'n llifo trwy [[Castell Newydd Emlyn]], [[Cenarth]] a [[Llechryd]] cyn cyrraedd y môr gerllaw Aberteifi. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched a Llechryd.
 
Un o nodweddion Afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am [[Eog]] yn bennaf, gan ddefnyddio [[Cwrwgl|cwrwgl]] yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.