Tomas ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

tirfeddiannwr
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Roedd '''Tomas ap Rhodri''' (c. 1300 - 1363) yn fab i Rhodri ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, ac yn dad i Owain Lawgoch. Lladdwyd Llywelyn ym mis Rhagfyr [[1...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:27, 17 Ionawr 2009

Roedd Tomas ap Rhodri (c. 1300 - 1363) yn fab i Rhodri ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, ac yn dad i Owain Lawgoch.

Lladdwyd Llywelyn ym mis Rhagfyr 1282, a dienyddiwyd ei frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1283. Carcharwyd eu plant i gyd am oes. Roedd brawd arall, Owain Goch, yn ôl pob tebyg eisoes wedi marw, gan adael Rhodri fel yr olaf o'r brodyr. Roedd ef wedi gwerthu ei hawl ar ran o deyrnas Gwynedd i'w frawd Llywelyn tua 1270, ac wedi symud i fyw i Loegr.

Thomas ap Rhodri oedd unig fab Rhodri a'i ail wraig, a ganed ef yn Lloegr tua 1300. Priododd ei chwaer, Catrin, i mewn i deulu hen dywysogion Powys Wenwynwyn, yn awr Ieirll Powis. Eifeddodd Thomas diroedd ei dad yn Swydd Gaer a Tatfield yn Surrey, ond cyfnewidiodd y tiroedd yn Swydd Gawer am diroedd yn Bidfield, Swydd Gaerloyw a Dinas ym Mechain Iscoed (Sir Drefaldwyn). Ymddengys iddo geisio hawlio arglwyddiaeth Llŷn, fel etifedd ei ewythr Owain Goch, ond yn aflwyddiannus. Er mai ef oedd etifedd Teyrnas Gwynedd bellach, nid ymddengys iddo erioed ei hawlio. Priododd wraig o'r enw Cecilia, a ganed iddynt fab, Owain ap Thomas ap Rhodri ap Gruffudd, neu Owain Lawgoch.