Y Corân: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan Gnosis (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Adam.
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
Un gwahaniaeth mawr rhwng y Coran a'r Beibl a'r Torah yw'r ffaith nad ydyw fel rheol yn cynnig disgrifiadau manwl o ddigwyddiau; ceir y pwyslais i gyd ar arwyddocâd ysbrydol a moesol digwyddiadau yn hytrach na threfn gronolegol neu naratifol. Ceir manylion llawnach o lawer am ddigwyddiadau hanesyddol neu led-hanesyddol yn yr [[Hadith]]au gan Muhammad ac yn adroddiadau'r [[Sahabah]] (Cydymdeithion Muhammad).
 
Mae penillion y Coran, sydd mewn [[rhyddiaith]] [[odl]]edig, yn deillio o'r traddodiad llafar, a chawsant eu cadw ar gof gan gydymdeithion Muhammad a'u trosglwyddo ar lafar am genhedlaeth neu ddwy. Yn ôl y traddodiad [[Sunni]], coladwyd y Coran a'i gofnodi ar [[memrwn|femrwn]] yn amser y [[Califf]] [[Abu Bakr]], dan arweiniad [[Zayd ibn Thabit Al-Ansari]]. Cafodd y llawysgrif(au) ei throsglwyddo wedyn ar ôl marwolaeth Abu Bakr, ond mae'r manylion yn amrywio gyda fersiwn y [[Shia]] yn wahanol i fersiwn y Sunni.
 
== Llyfryddiaeth ==