Beibl Gutenberg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Bodleian Library Gutenberg Bible Vol1 Fol 147r.jpg|bawd| Tudalen (ffolio 147r) o Feibl Gutenberg, cyfrol 1, yn dangos dechrau Ail Lyfr Samuel (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen Arch. B b. 10). Ychwanegwyd â llaw y llythyr F mawr a'r holl fanylion lliw ar ôl argraffu'r dudalen.]]
 
Y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Ewrop gan ddefnyddio [[teip symudol]] oedd '''Beibl Gutenberg''' neu '''Beibl 42-llinell''' neu '''Beibl Mazarin'''. Fel arfer fe'i enwir ar ôl ei argraffydd, [[Johannes Gutenberg]]. Weithiau fe'i gelwir yn yenwir ar ôl nifer y llinellau ar bob tudalen (felly "Beibl 42-llinell"), ac weithiau fe'i gelwir yn yenwir ar ôl llyfrgell Cardinal Mazarin ym Mharis, oherwydd dyna oedd lleoliad y copi cyntaf i'w ddisgrifio gan lyfrgraffwyr (felly "Beibl Mazarin").
 
Mae'n argraffiad mewn tair cyfrol o'r testun [[Lladin]] [[y Fwlgat]]. Gwnaethpwyd y gwaith yng ngweithdy Gutenberg yn [[Mainz]], [[yr Almaen]], a chafodd ei orffen tua 1455. Nid yw'n hysbys faint o gopïau a argraffwyd, ond mae ysgolheigion heddiw yn awgrymu bod rhwng 160 a 185 – tua tri chwarter ar bapur a'r gweddill ar [[memrwn|femrwn]].