Gwrthfiotig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{Cyffuriau | fetchwikidata = ALL }}
Math o gyffur gwrthficrobaidd yw gwrthfiotigau, bathwyd y term o'r hen Roeg αντιβιοτικά, neu antibiotiká. Cyfeirir atynt weithiau fel gwrthfacteroliaid ac fe'i defnyddir i drin ac atal heintiau bacteriol. Maent yn lladd neu'n atal tyfiant bacteria. Medda nifer gyfyngedig o wrthfiotigau ar alluoedd gwrth-protosoaidd. Nid yw gwrthfiotigau yn effeithiol wrth drin firysau megis yr annwyd cyffredin neu'r ffliw; yn hytrach, fe elwir cyffuriau sy'n atal firysau yn gyffuriau gwrthfirysol neu wrthfeirysau.
Weithiau, fe ddefnyddir y term gwrthfiotig (a olygir "gwrth-fywyd") i gyfeirio at unrhyw sylwedd sy'n ymladd microbau, sy'n gyfystyr â gwrthfeicrobaidd. Ceir rhai ffynonellau'n gwahaniaethu rhwng sylweddau gwrthfacterol a gwrthfiotig; defnyddir gwrthfacteroliaid mewn sebon a diheintyddion; meddyginiaeth yw gwrthfiotig.
Fe wnaeth gwrthfiotigau chwyldroi'r maes meddygaeth yn yr 20fed ganrif. Fodd bynnag, mae eu heffeithiolrwydd a'u hargaeledd cyson wedi arwain at eu gorddefnydd, ffaith sydd wedi datblygu galluoedd ymwrthodol bacteria. Y mae'r gallu hwnnw wedi arwain at broblemau eang. Datganodd Sefydliad Iechyd y Byd bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn "fygythiad difrifol, nad sydd bellach yn broffwydoliaeth ar gyfer y dyfodol, y mae'n digwydd, ym mhob rhanbarth o'r byd ac â'r potensial i effeithio unrhyw un, o unrhyw oed, mewn unrhyw wlad".
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Bacteria]]
|