Haint: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Infection" |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:01, 27 Chwefror 2018
Haint yw pan fydd sylwedd heintus neu afiach yn ymosod ac yn tyfu ynghylch meinweoedd corff organeb, ynghyd ag ymatebiad y meinweoedd letyol i'r tocsinau a gynhyrchir. Gelwir anhwylderau sy'n deillio o heintiau yn glefydau heintus, neu'n afiechydon trosglwyddadwy.
Achosir heintiau gan sylweddau heintus, er enghraifft firysau, firoidau, prionau a bacteria; nematodau megis llyngyr parasitig; arthropodau megis ticiau, gwiddon, chwain, a llau; ffwng megis tarwdenni; a macroparasitiaid eraill megis mathau o llynghyren.
Gall organedd letyol frwydro heintiau'n defnyddio eu system imiwnedd. Ymateba mamaliaid letyol i heintiau mewn modd cynhenid, ac yn aml mae'r dulliau ymateb yn cynnwys llid ynghyd ag ymatebion ymaddasol eraill.
Ymhlith y meddyginiaethau penodol a ddefnyddir i drin heintiau y mae gwrthfiotigau, gwrthfeirysau, meddygaeth gwrth-protosoaidd, gwrthffyngoliaid, a gwrthlynghyryddion. Arweiniodd clefydau heintus at 9.2 miliwn o farwolaethau yn 2013 (tua 17% o'r cyfanswm marwolaeth). Cyfeirir at y gangen o feddyginiaethau uchod fel meddyginiaethau clefydau heintus.