Tomas ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Lladdwyd Llywelyn ym mis Rhagfyr [[1282]], a dienyddiwyd ei frawd [[Dafydd ap Gruffudd]] yn [[1283]]. Carcharwyd eu plant i gyd am oes. Roedd brawd arall, [[Owain Goch ap Gruffudd|Owain Goch]], yn ôl pob tebyg eisoes wedi marw, gan adael Rhodri fel yr olaf o'r brodyr. Roedd ef wedi gwerthu ei hawl ar ran o [[Teyrnas Gwynedd|deyrnas Gwynedd]] i'w frawd Llywelyn tua [[1270]], ac wedi symud i fyw i Loegr.
 
Thomas ap Rhodri oedd unig fab Rhodri a'i ail wraig, a ganed ef yn Lloegr tua 1300. Priododd ei chwaer, Catrin, i mewn i deulu hen dywysogion [[Powys Wenwynwyn]], yn awr Ieirll Powis. Eifeddodd Thomas diroedd ei dad yn [[Swydd Gaer]] a Tatfield yn [[Surrey]], ond cyfnewidiodd y tiroedd yn Swydd Gaer am diroedd yn [[Bidfield]], [[Swydd Gaerloyw]] a Dinas ym [[Mechain IscoedIs Coed]] (gogledd [[Sir DrefaldwynPowys]]). Ymddengys iddo geisio hawlio arglwyddiaeth [[Llŷn]], fel etifedd ei ewythr [[Owain Goch]], ond yn aflwyddiannus. Er mai ef oedd etifedd Teyrnas Gwynedd bellach, nid ymddengys iddo erioed ei hawlio. Priododd wraig o'r enw Cecilia, a ganed iddynt fab, Owain ap Thomas ap Rhodri ap Gruffudd, neu Owain Lawgoch.