Methiant y galon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
== Arwyddion a symptomau ==
Mae arwyddion a symptomau cyffredin yn cynnwys diffyg [[Anadlu|anadl]], gorflino a chwyddo'r [[Coes|coesau]]. Mae prinder anadl fel arfer yn waethygu gydag [[Ymarfer corfforol|ymarfer corff]] ac, wrth orwedd. Gall y prinder anadl cadw'r claf yn effro yn y nos. Mae gallu cyfyngedig i ymarfer corff hefyd yn nodwedd gyffredin. Nid yw poen y frest, gan gynnwys angina, fel arfer yn digwydd oherwydd methiant y galon.<ref>[https://www.medicinenet.com/congestive_heart_failure_chf_overview/article.htm Medicine net - Congestive Heart Failure (CHF) Symptoms, Stages, and Prognosis] adalwyd 28 Chwefror 2018</ref>
 
== Achosion ==
Mae achosion cyffredin methiant y galon yn cynnwys clefyd coronaidd y [[rhydweli]] gan gynnwys cnawdnychiad myocardiaidd ([[trawiad ar y galon]]) blaenorol, [[pwysedd gwaed]] uchel, [[ffibriliad atrïaidd,]] [[clefyd falfiau'r galon]], defnydd gormod o [[alcohol]] a [[chardiomyopathi]] o achosion anhysbys. Mae'r rhain yn achosi methiant y galon trwy newid naillai strwythur neu weithrediad y galon<ref>[https://www.bhf.org.uk/heart-health/conditions/heart-failure British Heart Foundation - Heart failure] adalwyd 28 Chwefror 2018</ref>.
 
Mae dau brif fath o fethiant y galon:
* methiant y galon o ganlyniad i ddiffygiad y fentrigl chwith
* methiant y galon gyda ffracsiwn alldaliad arferol sy'n dibynnu os yw'r fentrigl chwith yn gallu crebychu, neu os yw'r galon yn gallu ymlacio.
 
Mae difrifoldeb y clefyd fel arfer yn cael ei raddio gan radd y broblemau wrth ymarfer corff. Nid yw methiant y galon yr un fath â thrawiad y galon (lle mae rhan o gyhyr y galon yn marw) neu ataliad y galon (lle mae llif y gwaed i'r galon yn stopio). Mae clefydau eraill a allai fod â symptomau tebyg i fethiant y galon yn cynnwys [[gordewdra]], methiant yr [[arennau]], problemau [[afu]], [[Anaemia|anemia]] , a [[Clefyd thyroid|chlefyd thyroid]].
 
Llinell 18:
Mae triniaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb ac achos y clefyd.
 
Yn achos cleifion sydd â methiant calon ysgafn sefydlog cronig, mae'r driniaeth cyffredin yn cynnwys addasiadau ffordd o fyw megis atal ysmygu, ymarfer corff a newidiadau dietegol, yn ogystal â meddyginiaethau<ref>[https://www.webmd.com/heart-disease/heart-failure/heart-failure-treatment#1 Web MD - Heart Failure Treatment] adalwyd 28 Chwefror 2018</ref> .
 
Yn achos cleifion sydd â methiant y galon oherwydd diffygion fentriglaidd chwith argymhellir defnyddio atalyddion trawsnewid ensym angiotensin neu atalyddion derbyn angiotensin ynghyd a atelyddion beta. I'r sawl sydd a chlefyd difrifol gellir defnyddio gwrthweithyddion aldosteron neu  hydralasin gyda nitrad