UNRWA: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ar, de, en, es, he, it, ja, my, nl, pl, pt, sv
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Flag of the United NationsUnrwa.svggif|200px|bawd|200px|Baner y CenhedloeddLogo Unedig[[UNRWA]]]]
Asiantaeth o'r [[Cenhedloedd Unedig]] yn y [[Lefant]] a sefydlwyd er mwyn rhoi cymorth i'r [[ffoaduriaid]] [[Palesteiniaid]] yn [[Llain Gaza]], [[Y Lan Orllewinol]], [[Gwlad Iorddonen]], [[Libanus]] a [[Syria]] yw '''UNRWA''' ([[Cymraeg]] [answyddogol]: 'Yr Asiantaeth dros Gymorth a Gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Agos'; [[Saesneg]]: ''UNRWA - United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East''; [[Ffrangeg]]: ''L'Office de secours et de travaux des Nations unies pour les réfugiés de Palestine dans le Proche-Orient''). Ei amcan yw ymateb i angenreidiau y ffoaduriaid hynny mewn meysydd fel [[iechyd]], [[addysg]], [[cymorth dyngarol]] a [[gwasanaethau cymdeithasol]]. Mae gan yr asiantaeth cyfrifoldeb i ofalu am dros 4.6 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd yn y [[Dwyrain Canol]]. [[John Ging]] yw pennaeth presennol UNRWA.
 
Creuwyd UNRWA ar ddiwedd y Rhyfel Arabaidd-Israelaidd cyntaf yn 1948 dan Benderfyniad 302 (IV) [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] a basiwyd ar yr 8fed o Ragfyr 1949. Mae mandad UNRWA, a oedd i fod yn un dros dro yn unig yn wreiddiol, wedi cael ei adnewyddu sawl gwaith ers hynny gan [[Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig]].