Walid Jumblatt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Arweinydd presennol y [[Plaid Sosialaidd Flaengar|Blaid Sosialaidd Flaengar]] (PSF/y BSF) yn [[Libanus]] ac arweinydd amlycaf y gymuned [[Druz]] (''Druze''), gymuned grefyddol sy'n tarddu o [[Islam]] [[Shia]] ac sy'n cynrychioli 10% o boblogaeth Libanus, yw '''Walid Jumblatt''' ([[Arabeg]]: وليد جنبلاط‎‎) (ganed [[7 Awst]], [[1949]]). Mae'n un o'r gwleidyddion gwrth-[[Syria]]idd amlycaf yn Libanus ac mae mewn cynghrair gyda Cynghrair 14 Mawrth, clymblaid sy'n cynnwys y [[Courant du Futur]] ([[Mudiad y Dyfodol]]), y [[Forces libanaises]] (''Lebanese Forces'') a [[Cymanfa Qornet Chehwan]]. Mae'n Aelod o [[Senedd Libanus]].
 
Mae Jumblatt yn bennaeth y tylwyth [[Jumblatt]], teulu estynedig o dras [[Cyrdiaid|Cyrdaidd]] sy'n hannu o [[Aleppo]]. Mae'n fab i'r gwleidydd [[Kamal Jumblatt]], cyn-arweinydd y BSF, plaid Walid Jumblatt, a guddlofruddwyd. Y tylwyth Jumblatt yw'r mwyaf pwerus o dylwythau'r Druziaid ac mae Walid Jumblatt wedi defnyddio ei safle yn y gymuned Druz fel sylfaen ei rym yn y BSF, sy'n blaid i'r chwith o'r canol. Mae'n cael ei ystyried yn dipyn o faferic gwleidyddol gyda buddianau y gymuned Druz yn flaenoriaeth. Hyd at 2000, pan guddlofruddwyd y gwleidydd [[Hafez al-Assad]], bu'n gefnogol i Syria yn Libanus, ond ers hynny mae'n galw ar i [[Damascus]] ildio ei goruchafiaeth ar faterion y wlad. Mae'n gwrthwynebu dylanwad [[Hezbollah]] hefyd.
 
== Dolenni allanol ==