Bergerac (Dordogne): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llun |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Dinas yn ''département'' [[Dordogne (département)|Dordogne]] a ''région'' [[Aquitaine]] yn [[Ffrainc]] yw '''Bergerac''' ([[Occitaneg]]: ''Brageirac''). Saif ar [[afon Dordogne]]. Roedd y boblogaeth yn [[2006]] yn 27,716, gyda 58,991 yn yr ardal ddinesig.
Bu ymladd yma yn ystod y [[Rhyfel Can Mlynedd]] rhwng Ffrainc a LLoegr. Cipiwyd y ddinas gan Iarll Derby dros y Saeson yn [[1345]], ar ddechrau'r rhyfel. Cipiwyd y ddinas gan fyddin Ffrengig, yn cynnwys [[Owain Lawgoch]] yn [[1377]] wedi gwarchae. Yn ddiweddarach, roedd yn ganolfan i'r [[huguenot]]iaid. Heddiw, mae'r ardal yn fwyaf adnabyddus am ei [[gwin]] enwog.
Ceir cerflun yma i [[Cyrano de Bergerac]], ond nid oes tystiolaeth fod ganddo gysylltiad a Bergerac, er gwaethaf ei enw.
|