Cerddoriaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes: clean up, replaced: yn y 18fed ganrif → yn y 18g using AWB
→‎Hanes: llawysgrif gynharaf
Llinell 2:
 
==Hanes==
Yn yr [[Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru|Oesoedd Canol Diweddar]] ceir nifer o gyfeiriadau yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] at gerddororion crwydrol yn canu ar y [[telyn|delyn]] neu'r [[crwth]]. Roedd [[pib]]au'n offerynnau cyffredin hefyd. Roedd y [[datgeiniad|datgeiniaid]] a rhai o'r beirdd yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant y delyn. Etifedd y traddodiad hwnnw yw [[Cerdd Dant]] heddiw. Yr ''Antiffonal Penpont'', o'r [[14g]], yw'r llawysgrif gynharaf o gerddoriaeth o Gymru.
 
Am ganrifoedd bu [[canu gwerin]] yn rhan annatod o fywyd y werin bobl. Erys nifer o geinciau ac [[alaw]]on a gasglwyd yn y 18g a'r 19eg ar glawr, e.e. '[[Dafydd y Garreg Wen]]'. Ond disodlwyd llawer o'r canu hyn mewn canlyniad i effaith y [[Diwygiad Methodistaidd]]. Yn eu lle ceid nifer o emynau gan bobl fel [[William Williams Pantycelyn]] a osodwyd ar emyn-donau poblogaidd fel '[[Cwm Rhondda]]'. Dan ddylanwad [[Ieuan Gwyllt]] daeth cynnal [[Cymanfa Ganu|Cymanfaoedd Canu]] yn boblogaidd iawn.