Ashdod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Dinas bumed mwyaf [[Israel]], ar lan y [[Môr Canoldir]] yn ne'r wlad, yw '''Ashdod''' neu '''Isdud''' ([[Hebraeg]]: אַשְׁדּוֹד‎ ''Ashdod''; [[Arabeg]]: اشدود‎, إسدود ''Isdud''). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo.
 
Mae'r anneddiadaneddiad cyntaf a wyddys yn Ashdod yn perthyn i gyfnod diwylliant [[Canaan]] yn yr 17eg ganrif CC. Cyfeirir at Ashdod 13 o weithiau yn y [[Beibl]]. Mae ei hanes yn ddrych i hanes [[Palesteina]] ei hun: roedd yn un o bum ddinas-wladwriaeth y [[Ffilistiaid]] a bu ym meddiant [[Teyrnas Israel]], yr [[Ymerodraeth Rufeinig]], yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]], y [[Croesgadwyr]] a'r [[Arabiaid]]. Sefydlwyd y ddinas fodern yn 1956 ar ôl i'r rhan fwyaf o'r [[Palesteiniaid]] lleol gael eu gorfodi i ymadael. Cafodd siarter dinas yn 1968.
 
Yn ystod [[Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948]], defnyddiodd Byddin [[yr Aifft]] Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. [[Al Nakba|Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref]] gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan [[Llu Amddiffyn Israel]]. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn [[Llain Gaza]] lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw<ref>Benny Morris, ''The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited'', Cambridge Press 2004 pp.471</ref> Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth y drefAshdod rhwng 1991 a 2000 wrth i tua 100,000 o bobl gyrraedd yno i fyw, yn bennaf o'r hen [[Undeb Sofietaidd]].
 
==Cyfeiriadau==