Ffosfforws gwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 14:
Am chwarter i saith amser lleol ar yr 17eg o Ionawr, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws ar un o ysgolion [[UNRWA]] yn [[Beit Lahiya]], fymryn i'r gogledd o Gaza ei hun. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd [[John Ging]], pennaeth UNRWA, am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel posibl.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/20091177657498163.html "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Ymwelodd [[Ban Ki-moon]], Ysgrifenydd Cyffredinol y CU, â dinas Gaza a'r gogledd ar yr 20fed o Ionawr. Dywedodd fod yr hyn a welodd yn "ddychrynllyd" a galwodd am ymchwiliad llawn i'r bomio o wersylloedd UNRWA gan yr [[IDF]], a oedd yn "ymosodiad wrthun a hollol annerbyniol ar y CU" gan ychwanegu y byddai'r rhai fu'n gyfrifol yn "atebol" am eu gweithrediadau.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200912013138315261.html "Ban demands probe into Gaza attacks" 20.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
 
Ar yr 20fed o Ionawr 2009 dywedodd [[Amnest Rhyngwladol]] fod defnyddio bomiau ffosfforws gwyn gan Israel yn Gaza "dro ar ôl tro" ac "heb wahaniaethu" ynar ardaloedd llawn o sifiliaid "yn [[trosedd rhyfel|drosedd rhyfel]]."<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200912064121600602.html "Israel accused of war crimes" 20.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
 
==Cyfeiriadau==