Dada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 15:
Bu'r Swistir yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddihangfa i arlunwyr a llenorion ifanc o'r [[Yr Almaen|Almaen]] a [[Ffrainc]] a oedd am osgoi gorfod ymladd ac oedd yn gwrthwynebu teimladau cryfion o wladgarwch, jingoistiaeth a chasineb a oedd ar led trwy bobloedd Ewrop ar y pryd. Wrth i'r rhyfel droi'n gyflafan waedlyd bu llawer yn ystyried fod dynoliaeth wedi colli pob rheswm ac wedi disgyn i wallgofrwydd.
Sefydlodd yr Almaenwyr Hugo Ball a Emmy Hennings glwb cabaret yn Zürich o'r enw ''Cabaret Voltaire'' ble gynhaliwyd perfformiadau yn gwawdio a dychanu 'synnwyr cyffredin' ac ymddygiad 'normal'. Enwyd y clwb ar ôl yr awdur Ffrangeg [[Voltaire]] (1694-1778) a ymosododd ar arferion cymdeithas ei gyfnod yn ei lyfr ''[[Candide]]''.
 
O'r ''Cabaret Voltaire'' tyfodd mudiad celfyddydol anffurfiol. Dewiswyd yr enw di-ystyr, plentynaidd 'Dada' ac yn fuan fe ledodd i [[Berlin]], [[Paris]] ac [[Efrog Newydd]].