Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 36:
Roedd ganddo oddeutu 400 o Gymry yn ei 'gwmni rhydd' ac yn eu plith [[Ieuan Wyn (milwr)|Ieuan Wyn]] (disgynydd [[Ednyfed Fychan]]) a Hywel Fflint (a oedd yn gyfrifol am ddal Syr Thomas Percy'n garcharor. Roedd yn gyfaill ac yn un o llawiau [[Bertrand du Guesclin]], milwr pwerus iawn o Lydaw yn ogystal â brenin Ffrainc, [[Siarl V, brenin Ffrainc|Siarl V]].
 
Yn [[1369]], disgrifia [[Christine de Pisan]] Owain, a ddisgrifir ganddi fel gwir etifedd Tywysog Cymru, yn ymladd ar ochr Ffrainc. Gydag ef roedd IeianIeuan Wyn, oedd yn berthynas iddo meddai Christine, a nifer o Gymru eraill. Dywed A,D. Carr ei bod yn amlwg fod Christine yn adnabod Owain a Ieuan yn bersonol, ac yn eu hedmygu. <ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 22</ref>
 
Cafodd Owain gymorth Siarl V yn ei ymdrechion i hawlio coron Cymru. Gwnaeth ei ymdrech gyntaf yn niwedd [[1369]], pan dalodd Siarl i gasglu llynges yn [[Harfleur]] i hwylio am Gymru gan arweiniad Owain. Hwyliodd y llongau ychydig cyn y Nadolig, ond gorfodwyd hwy i ddychwelyd i'r porthladd oherwydd stormydd. Yn [[1370]] roedd Owain yn gwasanaethu gyda [[Bertrand du Guesclin]] yn [[Maine]] ac [[Anjou]], ac yn [[1371]] roedd ef a'i gwmni yng ngwasanaeth tref [[Metz]].
 
Ym mis Mai [[1372]] cyhoeddodd yn ninas [[Paris]] ei fod yn hawlio coron Cymru. Cafodd fenthyg arian gan Siarl V, a hwyliodd i ymosod ar Frenin Lloegr. Ymosododd ar [[Ynys y Garn]] (Guernsey) i ddechrau, ac roedd yn dal yno pan gyrhaeddodd neges gan Siarl yn rhoi gorchymyn iddo roi'r gorau i'r ymgyrch a hwylio i [[Teyrnas Castilla|Castile]] i gasglu mwy o longau er mwyn ymosod ar y Saeson yn [[La Rochelle]]. Ym [[Brwydr La Rochelle|Mrwydr La Rochelle]], cafodd y llynges Sbaenig a Ffrengig fuddugoliaeth dros y llynges Seisnig. Yn fuan wedyn, gorchfygodd Owain fyddin o Saeson a Gascwyniaid yn Soubise, gan gymeryd Syr Thomas Percy a [[Jean III de Grailly|Jean de Grailly]], y Captal de Buch, yn garcharorion.<ref>Carr ''Owen of Wales'' tt. 35-6</ref> Ildiodd garsiwn Seisnig La Rochelle yn gynnar ym mis Medi; dywed un cronicl iddynt wrthod ildio i Owain, a mynnu cael ildio i frodyr Siarl V, [[Louis I, Dug Anjou|Dug Anjou]] a Dug Berry.<ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 37</ref>
 
Roedd cynllun am ymgyrch i Gymru eto yn [[1373]], ond bu raid rhoi'r gorau i'r cynllun pan ddechreuodd [[John o Gaunt]] ymosodiad. Yn 1374, bu Owain yn ymladd yn Mirebau ac yn Saintonge.