Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10:
Tua 1302 aeth Rhodri i [[Tatsfield]], Surrey i fyw wedi iddo briodi Catherine. Mae Tatsfield oddeutu 18 milltir o ganol Llundain ac mae rhai enwau llefydd Cymraeg yn dal i fodoli yn y pentre bychan e.e. Maesmaur Road).
 
[[Thomas ap Rhodri]] oedd unig fab Rhodri a'i ail wraig, a ganed ef yn Lloegr tua 1300. Priododd ei chwaer, Catrin, a [[Gruffudd de la Pole]], o deulu hen dywysogion [[Powys Wenwynwyn]], yn awr Ieirll Powis. Eifeddodd Thomas diroedd ei dad yn [[Swydd Gaer]] a Tatsfield yn [[Surrey]], ond cyfnewidiodd y tiroedd yn Swydd Gaer am diroedd yn [[Bidfield]], [[Swydd Gaerloyw]] a Dinas ym [[Mechain Is Coed]] (gogledd [[Powys]]). Ymddengys iddo geisio hawlio arglwyddiaeth [[Llŷn]], fel etifedd ei ewythr [[Owain Goch]], ond yn aflwyddiannus. Er mai ef oedd etifedd Teyrnas Gwynedd bellach, nid ymddengys iddo erioed ei hawlio. Priododd wraig o'r enw Cecilia, a ganed iddynt fab, Owain ap Thomas ap Rhodri ap Gruffudd, neu Owain Lawgoch.
 
Yn 1365, gwyddus fod Owain wedi dychwelyd o Ffrainc i Loegr i hawlio ei etifeddiaeth: Coron Cymu. Yn 1369 roedd yn ôl yn Ffrainc yn ymladd ar ochor Brenin Ffrainc. Pan glywodd brenin Lloegr am hyn cafodd tir Owain ei ddwyn oddi arno a chyhuddwyd ef o frad.