Diwydiant copr Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g, y d18g → y 18g using AWB
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
rhoi trefn daearyddol ar yr erthygl
Llinell 3:
Mae hanes '''diwydiant copr Cymru''' yn mynd yn ôl i [[Oes yr Efydd]]. [[Copr]] yw'r prif fetel mewn [[efydd]], gydag ychydig o [[Tun|dun]] wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng [[Afon Ystwyth|Nghwmystwyth]], [[Mynydd Parys]] ar [[Ynys Môn]] ac yn arbennig ar [[Pen y Gogarth|Ben y Gogarth]] ger [[Llandudno]], lle'r oedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio [[copr]] ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd [[craig igneaidd|cerrig igneaidd]] yn ogystal ag esgyrn [[buwch|gwartheg]], [[dafad|defaid]], [[gafr|geifr]] ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir [[Ewrop]] hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
 
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Roedd hefyd nifer o fwyngloddiau copr yn [[Eryri]], er enghraifft [[Drws-y-Coed]] a Sygun, ger [[Beddgelert]], ac yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]]. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym [[Meirionnydd]] hefyd, e.e. ger [[Llanfachreth]]. Un o'r mwyngloddiau yma oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew.
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth.
 
==Mynydd Parys==
Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn [[1768]], pan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yno. Erbyn y [[1780au]] Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn [[1778]] roedd y cwmni yn cael ei redeg gan [[Thomas Williams, Llanidan]], a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.
 
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd [[Abertawe]] i'w smeltio, neu weithiau i [[Swydd Gaerhirfryn]]. Erbyn diwedd y [[18g]] roedd poblogaeth [[Amlwch]] wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref fwyaf yng Nghymru ar ôl [[Merthyr Tudful]]. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr. O ganlyniad, datblygodd diwydiant llongau llwyddiannus yn yr harbwr. Erbyn 1800 roedd yno 8 siop gigydd, 13 siop deiliewr, 6 haearnwerthwr a 60 o dai tafarn!<ref>[http://www.copperkingdom.co.uk/cymraeg/ Y Deyrnas Gopr;] adalwyd 7 Mawrth 2018.</ref>
 
==Abertawe a Llanelli==
Datblygodd nifer o weithfeydd toddi copr yn ardal Abertawe, [[Castell-nedd]] a [[Llanelli]], yn defnyddio'r glo lleol i doddi mwynau o [[Cernyw|Gernyw]] a Mynydd Parys. Agorwyd y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yn [[1717]]. Sefydlwyd nifer o'r cwmnïau gyda chyfalaf o Gernyw, yn cynnwys y mwyaf, ''Vivian & Sons''. Am gyfnod cafodd Abertawe yr enw ''Copperopolis'', ac roedd yn allforio copr i bob rhan o'r byd. O 1843 ymlaen, dechreuwyd mewnforio mwy o fwyn tramor i Abertawe. Daliodd y diwydiant i dyfu, gan gyrraedd ei anterth rhwng [[1860]] a [[1875]]. Dirywiodd y diwydiant yma yn ne Cymru yn chwarter olaf y [[19g]], pan adeiladwyd gweithfeydd yn nes at y mwyngloddiau copr.
 
==Dirywiad y diwydiant copr==
Roedd hefyd nifer o fwyngloddiau copr yn [[Eryri]], er enghraifft [[Drws-y-Coed]] a Sygun, ger [[Beddgelert]], ac yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]]. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym [[Meirionnydd]] hefyd, e.e. ger [[Llanfachreth]]. Un o'r mwyngloddiau yma oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew.
 
Dirywiodd diwydiant copr Cymru tua chanol y [[1850au]], gyda'r copr yn rhai o'r cloddfeydd yn darfod a datblygiad mwyngloddiau mewn rhannau eraill o'r byd, yn arbennig yn [[Chile]] ac [[Awstralia]]. Yn [[1914]] cloddiwyd tua 1,500 tunnell o gopr yng Nghymru (885 tunnell ohono ym Meirion, 172 yn [[Sir Gaernarfon]]). Caewyd Mynydd Parys ar ddechrau'r [[20g]], a chaewyd nifer o'r gweithfeydd llai tua'r un adeg. Ail-agorwyd cloddfeydd copr Pen y Gogarth a Sygun yn y blynyddoedd diwethaf fel atyniad i dwristiaid.