Argraffu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Y math cynharaf ar argraffu oedd [[argraffu bloc]], lle defnyddid bloc pren wedi ei gerfio i argraffu, fel rheol ar liain. Datblygwyd hyn yn [[China]] yng nghyfnod [[Brenhinllin Tang]]. Dyfeisiwyd gwasg argraffu yma yn [[593]] OC., ac roedd papur newyddion argraffedig ar gael yn [[Beijing]] erbyn [[700]]. Argraffwyd llyfr, ''Swtra'r Diemwnt'' gyda'r dechneg yma yn [[868]].
 
CyhhaeddoddCyrhaeddodd printio bloc i [[Ewrop]] erbyn tua [[1300]]. Fe'i defnyddid yn bennaf i argraffu delweddau crefyddol ar liain. Erbyn tua 1400, roedd papur wedi dod yn fwy cyffredin, ac erbyn 1425 roedd nifer fawr o brintiau ar bapur yn ymddangos. Tua chanol y ganrif, dilynwyd hwy gan "lyfrau bloc", llyfrau wedi eu hargraffu gan ddefnyddio'r dechneg yma.
 
Y datblygiad nesaf oedd dyfeisio [[teip symudol]]. Y cyntaf i'w ddefnyddio yn Ewrop oedd [[Johannes Gutenberg]], o [[Mainz]] yn [[yr Almaen]], tua [[1439]]; er yr ymddengys fod teip symudol o fath wedi ei ddefnyddio yn [[Corea]] cyn hynny. Dyfeisiodd Gutenberg [[gwasg argraffu|wasg argraffu]] a math arbennig o inc, a lledaenodd y dechnoleg yn gyflym trwy Ewrop.