Hu Gadarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion
Llinell 1:
[[Delwedd:Hu Gadarn (Y Celt).JPG|200px|bawd|"Hu Gadarn yn Arwain y Cymry i Ynys Prydain" (o faner tudalen blaen ''Y Celt'', cylchgrawn o'r 1880au). Mae'r teitl yn llythrennau [[Coelbren y Beirdd]], un arall o luniadau Iolo Morganwg.]]
[[Arwr]] Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg [[Iolo Morgannwg]] yn bennaf, yw '''Hu Gadarn'''.<ref>A. C. Rejhon, 'Hu Gadarn: Folkore and Fabrication', yn ''Celtic Folkore and Christianity'', gol. Patrick K. Ford (Santa Barbara, 1983), tt. 201-12.</ref>
 
Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]], sef 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' (a gyhoeddwyd yn y [[Myvyrian Archaiology of Wales]]), fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar [[Diwylliant|ddiwylliant]] y [[Cymry]], yn fath o hynafydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo, arweiniodd Hu y Cymry i [[Ynys Prydain]] o Ddeffrobani (enw canoloesol ar [[Sri Lanka]] a fenthycwyd gan Iolo). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft [[Cerdd Dafod]] er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu.
 
Ymddengys fod Iolo wedi benthyg cymeriad Hu Gadarn o'r gerdd ganoloesol enwog "Cywydd y LlafuruwrLlafurwr", gan [[Iolo Goch]] (c.[[1320]]-c.[[1398]]). Yn y [[cywydd]] hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn [[ymerawdr]] [[Caergystennin]] (''Constinobl''), lywio [[aradr]] a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig.
 
:Hu Gadarn, feistr hoyw giwdawd,
Llinell 13:
:Aradr gwaisg arnoddgadr gwiw.<ref>Dafydd Johnston (gol.), ''Gwaith Iolo Goch'' (Caerdydd, 1988), cerdd xxviii, llau. 63-68.</ref>
 
Mae'r foeswers honno yn deillio o ffynhonnell [[Ffrangeg]] a gyfieithwyd i'r [[Cymraeg|Gymraeg]] yn y [[13eg ganrif]] dan yr enw ''[[Campau Charlymaen]]''; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, ''Hugun le Fort'' fel "Hu Gadarn".
 
Ffugiodd Iolo Morganwg draddodiad arall am Hu Gadarn yn defnyddio ei [[ychychen bannog]]en i dynu'r [[afanc]] o'r llyn ac felly gwaredu Ynys Prydain o'r dylifiadau a achoswyd gan yr anghenfil chwedlonol honno.
 
Roedd llawer o bobl yn credu yn chwedl Hu Gadarn, sy'n ddeniadol, a cheir nifer o gyfeiriadau at Hu yn [[llenyddiaeth]] y [[19eg ganrif]]. Er bod rhai ysglheigion yn amau dilysrwydd y traddodiad cyn hynny, bu rhaid aros tan yr 20fed ganrif i brofi mai un arall o ffugiadau niferus Iolo Morganwg oedd Hu Gadarn fel un o gyndeidiau chwedlonol y Cymry.
 
==Neo-dderwyddiaeth==
Llinell 25:
<references/>
 
[[Categori:Iolo Morganwg]]
 
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]]
[[Categori:Iolo Morganwg]]
 
[[de:Hu Gadarn]]