Maelgwn Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: br:Maelgwn Gwynedd |
tacluso, ehangu, llun |
||
Llinell 1:
'''Maelgwn Gwynedd''' (enw llawn '''Maelgwn ap Cadwallon''',
== Y Maelgwn hanesyddol ==
Yr oedd Maelgwn yn frenin Gwynedd ac yn un o frenhinoedd mwyaf dylanwadol y chweched ganrif. Roedd yn fab i [[Cadwallon Lawhir|Cadwallon Lawhir ab Einion Yrth]]. Mae'n un o
Mae Gildas yn cyhuddo Maelgwn o fod wedi gyrru ei ewythr o'i deyrnas trwy rym "ym mlynyddoedd cyntaf dy ieuenctid". Yna, meddai Gildas, edifarhaodd am ei bechodau a thyngu llw i fynd yn fynach, ond ni pharhaoedd ei edifeirwch a dychwelodd i'w bechodau. Cyhuddir ef o fod wedi llofruddio ei wraig a'i nai er mwyn medru priodi gweddw ei nai.
Mae'n ymddangos mai [[Castell Degannwy|Caer Ddegannwy]], rhwng [[Degannwy]] a [[Llanrhos]], oedd safle prif lys Maelgwn, a disgrifir y beirdd oedd yn canu ei foliant yno. Yn ôl Gildas, yr oedd yn gwrando ar ei foliant ei hun yn hytrach nag ar foliant Duw. Erbyn diwedd ei deyrnasiad yr oedd Maelgwn wedi ei sefydlu ei hun fel y brenin mwyaf grymus yng Nghymru, ac etifeddodd ei fab [[Rhun Hir ap Maelgwn|Rhun]] ei deyrnas. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' bu farw o bla a elwir "[[Y Fad Felen]]" yn [[547]].
== Chwedlau am Maelgwn ==
[[Image:LlanrhosChurch-P7010266.jpg|300px|bawd|Eglwys Rhos, Llanrhos: yma y bu farw Maelgwn Gwynedd yn 547, yn ôl traddodiad, wedi ei daro gan y Fad Felen]]
Un chwedl am Maelgwyn yw ei fod wedi rhoi sialens i frenhinoedd eraill Cymru i gystadleuaeth i benderfynu pwy fyddai ben ar y gweddill. Awgrymodd fod pob brenin yn eistedd ar gadair ar y traeth pan oedd y llaw'n dod i mewn. Byddai'r brenin allai aros ar ei gadair hwyaf yn dod yn ben ar y gweddill. Gorfododd y llanw i'r brenhinoedd eraill adael ei cadeiriau, ond yr oedd Maelgwn wedi trefnu i gael gwneud cadair fyddai'n nofio, felly enillodd trwy ystryw. Ceir chwedl gyffelyb am y brenin [[Daniaid|Danaidd]] [[Cnut]] yn [[Lloegr]].
Yn ôl traddodiad rhoddodd Maelgwn un rhan o [[Ynys Môn]] i Sant [[Cybi]] a'r llall i [[Seiriol]].
Mae yna gysylltiad cryf rhwng Maelgwn Gwynedd a'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]. Roedd [[Elffin ap Gwyddno]] yn garcharor gan y brenin ac ymwelodd Taliesin â'i lys yn Negannwy i'w ryddhau. Cafodd [[ymryson barddol]] â [[bardd llys|beirdd llys]] Maelgwn.
Mae traddodiad arall yn cysylltu Maelgwn â math o [[eisteddfod]] gynnar. Fel rhan o'r ornest bu rhaid i'r beirdd druain nofio [[Afon Conwy]]. Mae'r chwedl honno'n awgrymu cysylltiad rhyngddo a [[bryngaer]] [[Caer Seion]] hefyd.
Yn ôl traddodiad, bu farw Maelgwn o'r [[Pla Melyn]]. Ymguddiodd yn [[Eglwys Rhos]], ger ei lys, ond fe'i trawyd yn farw gan y pla er hynny. Ceir nifer o gyfeiriadau at y digwyddiad ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, yn aml gydag amrywiad ar y fformiwla "Hir hun Maelgwn yn Rhos".
Un peth sy'n cael ei dangos yn glir gan y traddodiadau hyn a 'hanes' Gildas yw bod Maelgwn yn frenin nerthol gydag awdurdod eang a'i fod yn noddwr pwysig i'r beirdd.
Llinell 25 ⟶ 28:
*John Owen Jones (1899), ''O lygad y ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru, sef Cesar, Tacitus, Gildas, Nennius, Asser''. (Davies ac Evans, Y Bala)
== Gweler hefyd ==
*''[[Hanes Taliesin]]''
{| border=2 align="center" cellpadding=5
|