Tiwmor yr ymennydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

math o dyfiant niweidiol
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Brain tumor"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:32, 8 Mawrth 2018

Achosir tiwmor yr ymennydd gan bresenoldeb celloedd annormal yn yr ymennydd. Ceir ddau brif fath o diwmor: tiwmor maleisus neu ganseraidd a thiwmor diniwed. Gellir rhannu tiwmorau canseraidd yn ddau grŵp sef tiwmorau sylfaenol sy'n dechrau o fewn yr ymennydd, a thiwmorau eilaidd sydd wedi lledaenu o rywle arall, a elwir yn diwmorau metastasis yr ymennydd. Gall pob math o diwmorau'r ymennydd gynhyrchu symptomau ac maent yn amrywio a'n ddibynnol ar y rhan o'r ymennydd ag effeithiwyd. Ymhlith y symptomau posib y mae cur pen, trawiadau, problemau gweld, chwydu ac effeithiau meddyliol. Mae cur pennau fel arfer ar eu gwaethaf yn y bore ac yn gwella wedi i rywun chwydu. Gall problemau mwy penodol gynnwys anawsterau wrth gerdded, siarad a synhwyro'n gyffredinol. Wrth i'r clefyd ddatblygu mae dioddefwr yn medru colli ymwybyddiaeth.


Nid yw'r hyn sy'n achosi'r rhan fwyaf o diwmorau'r ymennydd yn hysbys. Ymhlith y ffactorau risg anghyffredin y mae niwroffibromatosis etifeddol, amlygiad i glorid finyl, firws Epstein-Barr, ac ymbelydredd ïoneiddio. Nid cheir tystiolaeth glir ynghylch effaith ffonau symudol. Y mathau mwyaf cyffredin o diwmorau cynradd ymysg oedolion yw meningioma (sydd fel arfer yn ddiniwed), ac astrosytomâu fel glioblastomau. Y math mwyaf cyffredin ymysg plant yw medulloblastoma niweidiol. Gwneir diagnosis fel arfer drwy archwiliadau meddygol ynghyd a tomograffeg gyfrifiadurol neu ddelweddu oniaredd magnetig. Caiff diagnosis ei gadarnhau drwy fiopsi. Yn seiliedig ar y canfyddiadau, rhannir y tiwmorau yn ôl gradd difrifoldeb.


Gall triniaethau gynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, a chemotherapi. Rhoddir meddyginiaeth gwrthgyffylsiwn weithiau mewn achosion lle mae dioddefwr yn profi trawiadau. Gellir defnyddio Decsamethason a ffwrosemid i leihau'r chwyddo o amgylch tiwmor. Mae rhai tiwmorau'n tyfu'n raddol, ac yn aml mewn achosion felly, rhaid monitro'r tiwmor heb ymyrraeth. Mae triniaethau'n defnyddio system imiwnedd unigolyn yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Gall canlyniadau triniaethau amrywio'n sylweddol ac maent yn ddibynnol ar y math o diwmor a drinnir, ynghyd a natur ei lledaeniad wedi diagnosis. Fel arfer nid yw'r cyflwr Glioblastomas yn arwain at ganlyniadau boddhaol, ar y llaw arall gellir trin meningioma yn llwyddiannus ar y cyfan. Y mae oddeutu 33% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis tiwmor yr ymennydd. [1]

Mae tiwmorau uwchradd neu fetastatig yr ymennydd yn fwy cyffredin na thiwmorau cynradd yr ymennydd, ac y mae oddeutu hanner o achosion metastasis yn deillio o ganser yr ysgyfaint. Mae tiwmorau cynradd yr ymennydd yn effeithio oddeutu 250,000 o bobl yn flynyddol ar lefel rhyngwladol (2% o ganserau yn gyffredinol). Tiwmor yr ymennydd yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg plant iau na 15, lewcemia lymffoblastig acíwt yw'r math mwyaf cyffredin. [2]

References

  1. "SEER Stat Fact Sheets: Brain and Other Nervous System Cance". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 July 2014. Cyrchwyd 18 June 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Brain Tumour Facts 2011" (PDF). Brain Tumour Alliance Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 January 2014. Cyrchwyd 9 June 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)