Tiwmor yr ymennydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Brain tumor" |
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6:
Gall triniaethau gynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, a chemotherapi. Rhoddir meddyginiaeth gwrthgyffylsiwn weithiau mewn achosion lle mae dioddefwr yn profi trawiadau. Gellir defnyddio Decsamethason a ffwrosemid i leihau'r chwyddo o amgylch tiwmor. Mae rhai tiwmorau'n tyfu'n raddol, ac yn aml mewn achosion felly, rhaid monitro'r tiwmor heb ymyrraeth. Mae triniaethau'n defnyddio system imiwnedd unigolyn yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Gall canlyniadau triniaethau amrywio'n sylweddol ac maent yn ddibynnol ar y math o diwmor a drinnir, ynghyd a natur ei lledaeniad wedi diagnosis. Fel arfer nid yw'r cyflwr Glioblastomas yn arwain at ganlyniadau boddhaol, ar y llaw arall gellir trin meningioma yn llwyddiannus ar y cyfan. Y mae oddeutu 33% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis tiwmor yr ymennydd.
Mae tiwmorau uwchradd neu fetastatig yr ymennydd yn fwy cyffredin na thiwmorau cynradd yr ymennydd, ac y mae oddeutu hanner o achosion metastasis yn deillio o ganser yr ysgyfaint. Mae tiwmorau cynradd yr ymennydd yn effeithio oddeutu 250,000 o bobl yn flynyddol ar lefel rhyngwladol (2% o ganserau yn gyffredinol). Tiwmor yr ymennydd yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg plant iau na 15, lewcemia lymffoblastig acíwt yw'r math mwyaf cyffredin.▼
▲Mae tiwmorau uwchradd neu fetastatig yr ymennydd yn fwy cyffredin na thiwmorau cynradd yr ymennydd, ac y mae oddeutu hanner o achosion metastasis yn deillio o ganser yr ysgyfaint. Mae tiwmorau cynradd yr ymennydd yn effeithio oddeutu 250,000 o bobl yn flynyddol ar lefel rhyngwladol (2% o ganserau yn gyffredinol). Tiwmor yr ymennydd yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg plant iau na 15, lewcemia lymffoblastig acíwt yw'r math mwyaf cyffredin.
|