Tiwmor yr ymennydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Nid yw'r hyn sy'n achosi'r rhan fwyaf o diwmorau'r ymennydd yn hysbys. Ymhlith y ffactorau risg anghyffredin y mae niwroffibromatosis etifeddol, amlygiad i glorid finyl, firws Epstein-Barr, ac ymbelydredd ïoneiddio. Nid cheir tystiolaeth glir ynghylch effaith [[Ffôn symudol|ffonau symudol]]. Y mathau mwyaf cyffredin o diwmorau cynradd ymysg oedolion yw meningioma (sydd fel arfer yn ddiniwed), ac astrosytomâu fel glioblastomau. Y math mwyaf cyffredin ymysg plant yw medulloblastoma niweidiol. Gwneir diagnosis fel arfer drwy archwiliadau meddygol ynghyd a tomograffeg gyfrifiadurol neu ddelweddu oniaredd magnetig. Caiff diagnosis ei gadarnhau drwy [[Biopsi|fiopsi.]] Yn seiliedig ar y canfyddiadau, rhannir y tiwmorau yn ôl gradd difrifoldeb.
 
 
Gall triniaethau gynnwys cyfuniad o [[Llawfeddygaeth|lawdriniaethau]], therapïau [[ymbelydredd]], a [[Cemotherapi|chemotherapi]]. Rhoddir meddyginiaeth gwrthgyffylsiwn weithiau mewn achosion lle mae dioddefwr yn profi trawiadau. Gellir defnyddio Decsamethason a ffwrosemid i leihau'r chwyddo o amgylch tiwmor. Mae rhai tiwmorau'n tyfu'n raddol, ac yn aml mewn achosion felly, rhaid monitro'r tiwmor heb ymyrraeth. Mae triniaethau'n defnyddio [[system imiwnedd]] unigolyn yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Gall canlyniadau triniaethau amrywio'n sylweddol ac maent yn ddibynnol ar y math o diwmor a drinnir, ynghyd a natur ei lledaeniad wedi [[Diagnosis meddygol|diagnosis.]] Fel arfer nid yw'r cyflwr Glioblastomas yn arwain at ganlyniadau boddhaol, ar y llaw arall gellir trin meningioma yn llwyddiannus ar y cyfan. Y mae oddeutu 33% o ddioddefwyr yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis tiwmor yr ymennydd.<ref name=SEER2014>{{cite web|title=SEER Stat Fact Sheets: Brain and Other Nervous System Cance|url=http://seer.cancer.gov/statfacts/html/brain.html|website=NCI|accessdate=18 June 2014|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20140706133235/http://www.seer.cancer.gov/statfacts/html/brain.html|archivedate=6 July 2014|df=dmy-all}}</ref>
 
 
Mae tiwmorau uwchradd neu fetastatig yr ymennydd yn fwy cyffredin na thiwmorau cynradd yr ymennydd, ac y mae oddeutu hanner o achosion metastasis yn deillio o [[Canser yr ysgyfaint|ganser yr ysgyfaint]]. Mae tiwmorau cynradd yr ymennydd yn effeithio oddeutu 250,000 o bobl yn flynyddol ar lefel rhyngwladol (2% o ganserau yn gyffredinol).<ref name=WCR2014CNS>{{cite book|title=World Cancer Report 2014.|url=http://publications.iarc.fr/Non-Series-Publications/World-Cancer-Reports/World-Cancer-Report-2014|date=2014|publisher=World Health Organization|isbn=9283204298|chapter=Chapter 5.16|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20160919073553/http://publications.iarc.fr/Non-Series-Publications/World-Cancer-Reports/World-Cancer-Report-2014|archivedate=19 September 2016|df=dmy-all}}</ref> Tiwmor yr ymennydd yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg plant iau na 15, [[Lewcemia lymffoblastig aciwt|lewcemia lymffoblastig acíwt]] yw'r math mwyaf cyffredin.<ref name=WCR2014Peads>{{cite book|title=World Cancer Report 2014.|date=2014|publisher=World Health Organization|isbn=9283204298|pages=Chapter 1.3}}</ref>