Pwl o banig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Panic attack"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:38, 8 Mawrth 2018

Cyfnod sydyn o ofn dwys yw pwl o banig neu ymosodiad panig ac mae modd iddo arwain at grychguriadau, chwysu, cryndod ac ysgwyd, diffyg anadl, dideimladrwydd, neu ofid bod rhywbeth drwg ar ddigwydd. Mae'r symptomau mwyaf difrifol yn digwydd o fewn munudau. Fel arfer maent yn para am tua 30 munud ond gall y cyfnod hwnnw amrywio o eiliadau i oriau. Efallai y bydd dioddefwr yn ofni colli rheolaeth neu gall achosi poen ynghylch y frest. Nid yw ymosodiadau panig eu hunain yn beryglus yn gorfforol.


Achosir ymosodiadau panig gan nifer o anhwylderau gwahanol, er enghraifft anhwylder pryder cymdeithasol, anhwylder straen ôl-drawmatig, anhwylder dibyniaeth cyffuriau, iselder ysbryd a phroblemau meddygol. Gallant naill ai gael eu sbarduno neu eu hachosi'n ddirybudd. Mae ffactorau risg yn cynnwys ysmygu a straen seicolegol. Wrth wneud diagnosis dylid diystyrir amodau eraill sy'n achosi symptomau tebyg, gan gynnwys gorthyroidedd, gorbarathyroidedd, clefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint, a defnyddio cyffuriau.


Wrth drin pwl o banig dylid darganfod ei achos sylfaenol. Yn achos dioddefwr â phwysau cyson, gellir cynnig cwnsela neu weithiau meddyginiaethau. Gall hyfforddiant anadlu a thechnegau ymlacio cyhyrau gynorthwyo hefyd. Mae dioddefwyr pwl o banig yn fwy tebygol o hunanladd.


References