Hastings Kamuzu Banda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Arlywydd Malawi o 1966 hyd 1994 oedd '''Hastings Kamuzu Banda''' (1896? - 25 Tachwedd 1997). Ganed Banda i deulu protestannaidd yn Kasungu, yn yr hyn oedd yr...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Dechreuodd gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth oherwydd ei wrthwynebiad cryf i ffurfio [[Ffederasiwn Rhodesia a Nyasaland]] gan y llywodraeth Brydeinig. Aeth i [[Ghana]] yn [[1953]], yna i Nyasaland yn [[1958]]. Daeth yn arweinydd y cenedlaetholwyr yno, a ffurfiodd blaid wleidyddol, y ''[[Malawi Congress Party]]'' (MCP).
 
Daeth yn brif weinidog pan ddaeth Nyasaland yn wlad annibynnol Malawi ar [[6 Gorffennaf]] [[1964]]. Ar [[6 Gorffennaf]] [[1966]], daeth Malawi yn weriniaeth, gyda Banda yn Arlywydd. Roedd ei lywodraeth yn geidwadol; roedd Malawi yn un o'r ychydig wledydd Affricanaidd i fod a chysylltiadau diplomatig a De Affrica yng nghyfnod [[Apartheid]]. Daeth i sylw hefyd oherwydd ei wrthwynebiad i sgerti byrion gan ferched a gwallt hir gan ddynion.
 
Erbyn dechrau'r 1990au, roedd gwrthwynebiad i'w ddull awdurdodol o lywodraethu yn cynyddu ym Malawi. Cyfansoddodd esgobion yr [[Eglwys Gatholig]] ym Malawi lythyr cyhoeddus yn galw am fwy o ddemocratiaeth, ac yn [[1993]] cytunodd Banda i ganiatau ffurfio pleidiau eraill heblaw'r MCP. Yn etholiad [[1994]], gorchfygwyd ef gan [[Bakili Muluzi]] o'r [[United Democratic Front (Malawi)|United Democratic Front]]. Bu Banda farw yn 1997 yn [[Johannesburg]].