Hastings Kamuzu Banda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Arlywydd [[Malawi]] o [[1966]] hyd [[1994]] oedd '''Hastings Kamuzu Banda''' ([[1896]]? - [[25 Tachwedd]] [[1997]]).
 
Ganed Banda i deulu protestannaidd yn Kasungu, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn drefedigaeth Brydeinig [[Nyasaland]]. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei enedigaeth; gywed rhai ffynonellau ei fod yn 101 oesoed pan fu farw, eraill 99.
 
Bu'n astudio yn [[De Affrica|Ne Affrica]], gan weithio mewn cloddfa ddiemwntau i'w ariannu ei hun, yna yn yr [[Unol Daleithiau]]. Wedi hyn, aeth i'r [[Alban]] i astudio i ddod yn feddyg yng [[Caeredin|Nghaeredin]]. Daeth yn flaenor yn [[Eglwys yr Alban]]. Yn ddiweddarach, treuliodd flynyddoedd yn gweithio fel meddyg teulu yn [[Llundain]]. Roedd yn rhugl yn Saesneg, Ffrangeg, Lladin, Groeg a Hebraeg.