Cellbilen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Manion using AWB
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
l.
[[Delwedd:Cell membrane detailed diagram 4.svg|bawd|400px|Delwedd o gellbilen 'Eukaryotic'.]]
Yn amgylchynu pob [[cell byw]] mae haen denau sy’n gwahanu [[sytoplasm]] y gell o’r amgylchedd allgellog. Y '''gellbilen''' yw’r haen hon ac y mae gweithrediad cywir y bilen yn angenrheidiol i fywyd y gell.
 
Mae’r gellbilen yn diffinio [[perimedr]] y gell drwy greu rhwystr rhwng sytoplasm y gell a’r amgylchedd allgellog, ond mae’r gellbilen yn haen ddetholus athraidd ('selectively permeable') sy’n caniatáu symudiad rhai sylweddau dros y bilen ac yn cyfyngu symudiad sylweddau eraill.
 
Gall y gell, felly dderbyn sylweddau angenrheidiol o’r amgylchedd allgellog a chael gwared â sylweddau gwastraff o’r gell drwy eu rhyddhau i’r amgylchedd allgellog. Gall rhai sylweddau bach, amholar megis ocsigen a charbon deuocsid groesi’r gellbilen yn rhwydd drwy drylediad syml ('simple diffusion') i lawr eu graddiannau crynodiad, ond nid yw hyn yn bosibl i ïonau a molecylau polar, er enghraifft carbohydradau ac asidau amino. Yn hytrach, mae'r rhain yn dibynnu ar broteinau cludo penodol sy’n bresennol yn y gellbilen i’w cludo dros y gellbilen. Gall y cludiant fod i lawr eu graddiannau crynodiad neu eu graddiannau electrogemegol drwy broses a elwir yn drylediad cynorthwyedig ('facilitated diffusion') neu i fyny eu graddiannau crynodiad neu eu graddiannau electrogemegol drwy broses sy’n defnyddio egni a elwir yn gludiant gweithredol.
 
== Beth yw adeiledd y bilen? ==