Tonsilitis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Tonsillitis"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:51, 9 Mawrth 2018

Llid y tonsiliau yw tonsilitis, cyflwr sydd fel arfer yn datblygu'n gyflym. Math o ffaryngwst ydyw. Gall symptomau gynnwys dolur ynghylch y gwddf, twymyn, tonsiliau chwyddedig, trafferthion wrth lyncu, ac ehangiad yn y nodau lymff o gwmpas y gwddf. Mae modd i'r cyflwr arwain at gymhlethdodau, gan gynnwys crawniad peritonsilaidd.

Achosir tonsilitis fel arfer gan haint firaol ac y mae oddeutu 5% i 40% o achosion yn datblygu oherwydd haint bacteriol. Pan achosir y cyflwr gan y grŵp bacteriwm A streptococws, cyfeirir ato fel gwddf strep. Nid yw bacteria megis Neisseria gonorrhoeae, Corynebacterium diphtheriae, neu Haemophilus influenzae yn achosi'r cyflwr fel arfer. Lledaenir yr haint fel arfer drwy'r awyr. Gall system sgorio, fel sgôr Centor, gynorthwyo wrth wahanu achosion gwahanol. Gellir cadarnhau diagnosis drwy swab gwddf neu brawf strep cyflym.

Wrth drin y cyflwr gwneir ymdrech i wella symptomau a gostwng cymhlethdodau. Gellir defnyddio parasetamol (asetaminoffen) ac ibuprofen i ostwng poenau. Os mai strep y gwddf sy'n bresennol, caiff y gwrthfiotig penisilin ei argymell fel rheol. Gall rhai dioddefwyr fod yn ag alergedd tuag at benisilin, ac mewn achosion felly, defnyddir seffalosborin neu macrolidiau i drin tonsilitis. Cynigir tonsilectomi i rai plant sy'n profi cyfnodau rheolaidd o donsilitis. Mae'r driniaeth honno'n lleihau'r risg o donsilitis dychweladwy yn gymedrol.

Mae tua 7.5% o bobl yn dioddef poen ynghylch y gwddf o leiaf unwaith bob tri mis, ac mae oddeutu 2% o'r boblogaeth yn ymweld â meddyg ar gyfer tonsilitis yn flynyddol. Effeithir y cyflwr ar blant oed ysgol yn bennaf, yn enwedig yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf. Gwellir y rhan fwyaf o achosion gyda meddyginiaeth, neu hebddynt hyd yn oed. Mewn oddeutu 40% o achosion, gwellir y symptomau o fewn tridiau, a 80% o achosion o fewn wythnos, hyd yn oed os mae streptococws yn bresennol. Mae gwrthfiotigau yn lleihau hyd symptomau tua 16 awr.

References