Ffobia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

anhwylder gorbryder
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Phobia"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:15, 9 Mawrth 2018

Math o anhwylder gorbryder yw ffobia, ac fe'i diffinnir fel ymdeimlad o ofn parhaus, naill ai at wrthrych neu sefyllfa. Mae'r ffobia fel arfer yn arwain at ymdeimlad o ofn enbyd a gall fod yn bresennol am fwy na chwe mis. Ai dioddefwr i raddau helaeth er mwyn osgoi'r sefyllfa neu'r gwrthrych oddi tan sylw, graddfa sydd fel arfer yn fwy na'r perygl gwirioneddol. Os na ellir osgoi'r gwrthrych neu'r sefyllfa a ofnir, bydd dioddefwr yn gofidio neu'n profi panig sylweddol. Gall ffobia o waed neu anaf arwain at lewygu. Mae agoraffobia yn gysylltiedig â phyliau panig. Fel arfer mae gan berson ffobia i nifer o wrthrychau neu sefyllfaoedd.

Gellir rhannu ffobiâu yn gategorïau; penodol, ffobiâu cymdeithasol ac agoraffobia. Ymhlith y ffobiâu penodol yma y mae ofni anifeiliaid, sefyllfaoedd amgylchoedd naturiol, ofni gwaed neu anafiadau, a sefyllfaoedd eraill. Mae'r ffobiâu penodol mwyaf cyffredin yn cynnwys ofni pryfed cop, nadroedd, ac uchder. O bryd i'w gilydd sbardunir ffobia gan brofiad negyddol, naill ai gyda'r gwrthrych neu mewn sefyllfa debyg. Diffinnir ffobia cymdeithasol fel proses o ofni sefyllfa a all arwain, yn llygaid y dioddefwr, at eraill yn eu barnu. Agoraphobia yw ofni sefyllfa na ellir dianc ohono'n hawdd.

Dylid trin ffobiâu penodol â therapi amlygiad, sef cyflwyno dioddefwr i'r sefyllfa neu'r gwrthrych dan sylw nes bod ei ofn yn cilio. Nid yw meddyginiaethau'n ddefnyddiol yn y math hwn o ffobia. Caiff ffobiâu cymdeithasol ac agoraffobia eu trin yn aml wrth gyfuno rhaglenni cwnsela a meddyginiaeth. Defnyddir meddyginiaethau gwrth-iselder, bensodiasepinau, neu beta-atalyddion i drin y cyflwr.

Effeithir oddeutu 6-8% o boblogaeth y byd gorllewinol fan ffobiâu penodol yn flynyddol a 2-4% o boblogaeth Asia, Affrica, a Lladin America. Mae ffobia cymdeithasol yn effeithio ar oddeutu 7% o boblogaeth yr Unol Daleithiau, tra effeithia 0.5-2.5% o'r boblogaeth ryngwladol. Y mae oddeutu 1.7% o boblogaeth y byd yn datblygu'r cyflwr agoraffobia. Caiff dwbl y menywod eu heffeithio gan y cyflwr i gymharu â dynion. Mae ffobia fel arfer yn dechrau tra bod unigolyn rhwng 10 ac 17 mlwydd oed. Ceir cyfraddau is mewn unigolion hŷn. Mae pobl â ffobiâu yn fwy tebygol o hunanladd.

References